Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Sir Ddinbych a'r Cyffiniau, 2 - 10 Awst
2013

Sir Ddinbych a'r Cyffiniau
2 - 10 Awst 2013

Busnes

pafiliwn

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o wyliau celfyddydol mawr y byd ac mae’n denu 150,000 - 160,000 o ymwelwyr yn flynyddol. Mae cyfle i fusnesau a chwmnïau elwa o ymweliad y Brifwyl â gwahanol rannau o Gymru, wrth i Ŵyl flaenaf ein gwlad deithio o ardal i ardal, gan ymweld â gogledd a de Cymru bob yn ail.

Mae ymweliad yr Eisteddfod yn gyfle arbennig i’r ardal leol elwa’n ddiwylliannol ac yn economaidd yn ystod y cyfnod cyn yr Eisteddfod, yn ystod yr Ŵyl ei hun, ac yn y dyfodol, drwy ddenu Eisteddfodwyr i ddychwelyd i’r ardal.

Beth yw’r Eisteddfod?

  • Gŵyl gelfyddydol, a gynhelir drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n rhoi llwyfan cenedlaethol i gerddoriaeth, dawns, celf, perfformiadau gwreiddiol, gweithgareddau teuluol a chystadlaethau o bob math, mewn awyrgylch groesawgar, hwyliog ac unigryw.
  • Gŵyl sy’n parhau am gyfnod o 8 diwrnod ddechrau Awst. Mae’n newid ei lleoliad bob blwyddyn ac yn ymweld â’r gogledd a’r de bob yn ail.
  • Maes lliwgar gyda phafiliwn pinc yn ganolbwynt i’r cystadlu a’r seremonïau, a gweithgareddau o bob math o’i amgylch.
  • Dros 300 o stondinau amrywiol a Neuadd Arddangos sy’n llawn crefftwyr, gemwaith a gwaith celf.

Mae’r iaith yn greiddiol a phwysig i’r Eisteddfod, ond mae’r Brifwyl yn llawer mwy na digwyddiad Cymraeg, gan gynnig rhywbeth i bawb o bob oed. Does dim rhaid siarad Cymraeg i fwynhau’r hyn sydd gan yr Eisteddfod i’w chynnig, ac mae’r Maes yn llawn o weithgareddau a digwyddiadau i’w mwynhau. Ond beth am fachu’r cyfle i ddatblygu’ch gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog?

Mae’r Eisteddfod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynllunio taith y Brifwyl dros y blynyddoedd nesaf, a rydym hefyd yn cydweithio gydag awdurdodau lleol am o leiaf dwy flynedd a hanner cyn ymweliad yr Eisteddfod. Rydym yn cyhoeddi ein bwriad i ymweld ag ardal ddwy flynedd ymlaen llaw, gyda’r pwyllgorau a’r strwythurau codi arian yn cael eu creu cyn i’r gwaith lleol gychwyn. Mae’r Eisteddfod yn costio £3.4 miliwn i’w llwyfannu, gyda tharged o tua £300,000 i’r gronfa leol.

Mae’r adran hon yn gyflwyniad i’r Eisteddfod ac yn amlinellu rhai o’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol, ynghyd â sut y gallwn gydweithio er mwyn sicrhau llwyddiant y Brifwyl. Gwnewch yn siwr eich bod yn chwarae rhan yn ymweliad yr Eisteddfod â’ch ardal leol – mae’n gyfle gwych i fyd busnes.

13