Pafiliwn

Y Pafiliwn yw’r adeilad mawr pinc yng nghanol y Maes.
Dyma lle mae llawer o’r cystadlaethau’n digwydd a dyma hefyd lle mae’r seremonïau’n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos.
Cofiwch am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn y Pafiliwn, ac mae’r ffonau clust arbennig ar gael yn rhad ac am ddim o Ddrws 7 y Pafiliwn.
Mae drysau’r Pafiliwn yn cael eu cau yn ystod y cystadlaethau, ond mae croeso i chi fynd i mewn a mwynhau’r cystadlu pan fydd y drysau’n agor rhwng pob cystadleuaeth.
Mae pob math o gystadlaethau’n digwydd yn y Pafiliwn – o ddawnsio disgo i ganu gwerin ac o gorau meibion mawr i unawdau dan 12 oed.
Seremonïau
Yn ystod yr wythnos, mae beirdd a llenorion gorau Cymru’n derbyn gwobrau am eu gwaith. Gorsedd y Beirdd sy’n gyfrifol am y seremonïau yma yn y Pafiliwn.
Yr Archdderwydd yw pennaeth yr Orsedd ac mae hi’n arwain y seremonïau hyn yn ystod yr wythnos.

Dydd Llun mae bardd yn derbyn y Goron am ysgrifennu cerddi rhydd. Dydd Mercher, mae’r priflenor yn derbyn y Fedal Ryddiaith am ysgrifennu cyfrol, a dydd Gwener mae bardd yn derbyn y Gadair am ysgrifennu cerddi mewn cynghanedd.
Mae seremoni Medal Goffa Daniel Owen yn digwydd brynhawn Mawrth, Tlws y Cerddor nos Fercher a’r Fedal Ddrama brynhawn Iau, ond nid yw’r Orsedd yn cymryd rhan yn y seremonïau yma.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd ar fore Llun a Gwener, gyda gorymdaith liwgar drwy’r Maes ar y dyddiau yma.