Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Sir Ddinbych a'r Cyffiniau, 2 - 10 Awst
2013

Sir Ddinbych a'r Cyffiniau
2 - 10 Awst 2013

2014

2013 - canolfan groeso

Llanelli yw lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014, a gynhelir yn Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf ers 2000.

Gŵyl yr Eisteddfod yw pinacl prosiect cymunedol dros ddwy flynedd, sydd wedi’i ddisgrifio fel cynllun adfywio teithiol blaenaf Cymru, sy’n gyfle i bobl o bob cwr o’r sir ddod ynghyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau sy’n hyrwyddo’r Eisteddfod Genedlaethol.

Yr Eisteddfod yw un o wyliau diwylliannol a chelfyddydol mawr y byd, ac fe’i chynhelir yn ystod wythnos gyntaf mis Awst bob blwyddyn. Cynhelir Eisteddfod 2014 yn Sir Gaerfyrddin ar y Meysydd Gŵyl, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli o 1-9 Awst, gyda theatr newydd y dref, Y Ffwrnes, hefyd yn chwarae rhan yn y gweithgareddau. Rydym yn gobeithio croesawu tua 150,000 o ymwelwyr i’r dref am wythnos i’w chofio i ddathlu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Yn ystod y misoedd hyd at yr Eisteddfod, bydd yr holl ardal yn llawn bwrlwm a gweithgareddau wrth i Sir Gâr baratoi i gynnal yr Eisteddfod. Mae’r ardal yn cael ei rhannu’n wardiau, gyda phob ward yn cael targed ariannol, ac yna mae’r gymuned leol yn cynnal gweithgareddau codi arian sy’n dod â phobl o bob oed at ei gilydd yn y gymuned. Mae gweithgareddau diweddar yn cynnwys cyngherddau, nosweithiau cyrri, gweithgareddau noddedig a hyd yn oed rasys hwyaid a hyrddod – a oedd yn boblogaidd iawn!

Rydym bob amser yn chilio am bobl i fod yn rhan o’r prosiect cymunedol, a chysylltwch, os gwelwch yn dda, os y gallwch helpu mewn unrhyw ffordd. Anfonwch ebost at gwyb@eisteddfod.org.uk neu ffoniwch y swyddfa ar 0845 4090 400.

Edrychwn ymlaen i’ch gweld yn Llanelli yn 2014!
 

13