Ffurflenni cais maes carafanau'r Eisteddfod ar gael
Heddiw (18 Ionawr), cyhoeddwyd ffurflenni cais Maes Carafanau Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.
Bydd y rheini sydd wedi cysylltu gyda’r swyddfa dros y misoedd diwethaf yn derbyn ffurflen drwy’r post dros y dyddiau nesaf, ac mae modd ei lawrlwytho o wefan Eisteddfod 2010 – www.eisteddfod.org.uk – neu drwy ffonio 0845 122 2003, ac mae trefnwyr yn gofyn i’r rheini sydd am wneud cais ddychwelyd y ffurflen i Swyddfa’r Eisteddfod cyn gynted â phosibl.
Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards:
“Rydym wedi derbyn nifer fawr o ymholiadau ynglŷn â gwneud cais am safle ar faes carafanau swyddogol yr Eisteddfod ym Mlaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd eleni, sy’n argoeli’n dda am wythnos i’w chofio.
“Lleolir y Maes Carafanau eleni ym Mharc Bryn Bach, sydd â chyfleusterau da iawn ar gyfer ymwelwyr. Bydd bysiau gwennol yn teithio’n rheolaidd i’r Maes ac yn ôl trwy gydol y dydd, gan sicrhau bod y daith yn hwylus i bawb.
“Rydym yn gofyn i bobl ddychwelyd y ffurflenni i swyddfa’r Eisteddfod cyn gynted â phosibl, gan y bydd galw mawr am safleoedd ar gyfer yr Eisteddfod eleni.
Mae gŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol yn denu tua 160,000 o ymwelwyr yn flynyddol, ac fe’i chynhelir yn y gogledd a’r de bob yn ail blwyddyn. Ceir mynediad am ddim i holl weithgareddau’r Ŵyl am bris tocyn maes dyddiol.
Mae’r Eisteddfod yn derbyn grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg, a chan awdurdodau unedol Cymru drwy bartneriaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy o 31 Gorffennaf – 7 Awst 2010.



