Chwe mis i fynd cyn cychwyn yr Eisteddfod
Chwe mis yn unig sydd i fynd cyn y bydd Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn croesawu Cymru gyfan i’r ardal ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy o 31 Gorffennaf – 7 Awst eleni.
Dyma’r tro cyntaf i’r Brifwyl ymweld â’r ardal ers 1958 ac mae’r trigolion lleol yn frwd iawn eu croeso, ac yn brysur iawn yn codi ymwybyddiaeth drwy’r ardal gyfan.
Meddai Richard Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith lleol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd:
“Mae’n anodd credu mai dim ond chwe mis sydd ar ôl cyn y bydd pawb yn tyrru i’r ardal ar gyfer un o wyliau celfyddydol mawr y byd. Rydym ni’n hynod gyffrous yn yr ardal ac yn edrych ymlaen yn eiddgar am wythnos i’w chofio!”
Ychwanegodd Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod:
“Rydym yn fodlon iawn gyda’r paratoadau ar gyfer yr Ŵyl eleni. Mae’r Maes mewn lleoliad hwylus ar gyfer ymwelwyr o bob cwr o Gymru, ac yn cael ei baratoi ar ein cyfer ar hyn o bryd. Mae modd gwneud cais am safle ar y maes carafanau swyddogol ym Mharc Bryn Bach, lle mae adnoddau ardderchog ar gael, ac mae stondinau ar gael i’w llogi, gyda’r wybodaeth i gyd ar ein gwefan.
“Mae pobl yr ardal yn frwdfrydig ac yn gefnogol iawn, ac rwy’n mawr obeithio y daw ymwelwyr o bob cwr o Gymru yn eu miloedd i fwynhau Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.”
Mae gŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol yn denu tua 160,000 o ymwelwyr yn flynyddol, ac fe’i chynhelir yn y gogledd a’r de bob yn ail blwyddyn. Ceir mynediad am ddim i holl weithgareddau’r Ŵyl am bris tocyn maes dyddiol.
Mae’r Eisteddfod yn derbyn grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg, a chan awdurdodau unedol Cymru drwy bartneriaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.



