Bydd ymgyrch hysbysebu Hwyl is fun yn cychwyn ddechrau Gorffennaf gyda chyfres o hysbysebion mewn papurau ar hyd a lled y Cymoedd.

Bwriad yr ymgyrch, a drefnir gyda chymorth Y Cymoedd Calon ac Enaid Cymru, yw cyflwyno ymadroddion Cymraeg i bobl sydd naill ai'n dysgu Cymraeg neu heb unrhyw Gymraeg sy'n byw yn y Cymoedd.

Mae'n rhan o ymgyrch ehangach yr Eisteddfod Genedlaethol i hyrwyddo'r wyl i'r rheini sy'n byw o fewn awr o daith i Faes y Brifwyl eleni ym Mlaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd. Mae ymgyrchoedd eraill yn cynnwys Ffoli ar Fflagiau a'r cynllun mynediad am ddim, a fydd yn dod i ben ddydd Mercher 30 Mehefin.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.hwyl-is-fun.com

Hysbyseb Hwyl