Manylion gweithgareddau'r Pafiliynau ar gael arlein
Mae manylion gweithgareddau ym mhrif bafiliynau Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd wedi’u cyhoeddi arlein, er mwyn helpu ein darpar ymwelwyr i gynllunio’u hymweliad â’r Brifwyl.
Ewch i www.eisteddfod.org.uk a dilynwch y ddolen o’r dudalen flaen, ac yna gallwch glicio ar bob pafiliwn er mwyn gweld y crynodeb.
Bydd manylion llawn y gweithgareddau’n cael eu cyhoeddi’n y Rhaglen Swyddogol a fydd ar gael i’w brynu’n ystod Gorffennaf o wefan yr Eisteddfod, neu o siopau llyfrau ar hyd a lled Cymru.
Rydym hefyd yn y broses o goladu gweithgareddau stondinwyr eraill a bydd y rhain hefyd yn ymddangos ar y we dros yr wythnosau nesaf. Os ydych chi’n trefnu gweithgaredd ar y Maes, gadewch i ni wybod trwy gwblhau’r ffurflen gofrestru gweithgareddau arlein.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd o 31 Gorffennaf – 7 Awst yn Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy. Defnyddiwch ein gwefan i gael hyd i bob math o wybodaeth am yr ŵyl a’r Eisteddfod ei hun. Gallwch gofrestru am ein cylchlythyr rheolaidd naill ai trwy lenwi’r ffurflen gysylltu arlein neu trwy anfon ebost at gwyb@eisteddfod.org.uk



