Mae Arriva Trains Wales yn cynghori cwsmeriaid sy'n bwriadu teithio ar y tren i'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy o 31 Gorffennaf - 7 Awst, y bydd y gwasanaethau tren yn brysur. 

Meddai Simon Turton, Rheolwr Digwyddiadau Arbennig Arriva Trains Wales 

“Bydd coetsys ychwanegol ar y trenau rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy, gan ddarparu rhagor o seddau.  Bydd gwasanaeth ychwanegol o Lyn Ebwy hefyd yn cael ei ddarparu." 

Bydd bysus gwennol yn rhedeg rhwng yr Eisteddfod a gorsaf Glyn Ebwy'n rheolaidd.

Rydym yn cynghori cwsmeriaid i gynllunio'u taith ymlaen llaw. 

Am amserlen lawn a gwybodaeth am gostau, ewch i www.arrivatrainswales.co.uk neu ffoniwch 0845 60 40 500.

DATGANIAD I'R WASG GAN ARRIVA TRAINS WALES YW HWN