Os ydych wedi teimlo erioed ei fod yn anodd cadw llygad ar yr hyn sy’n digwydd ar Faes yr Eisteddfod, a’ch bod yn colli cyfle i fynd i weithgareddau neu ddigwyddiadau diddorol, bydd ateb i’ch problem eleni. Os ydych yn chwilio am rywbeth sy’n rhoi gwybodaeth i chi am bopeth sy’n digwydd drwy wthio botwm neu ddau’n unig, iSteddfod yw’r ateb perffaith! Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, bydd modd i unrhyw Eisteddfodwr sydd ag iphone gadw mewn cysylltiad gyda phopeth sy’n digwydd ar Faes y Brifwyl.

Yr Eisteddfod eleni yw’r tro cyntaf i’r dechnoleg gael ei defnyddio yn y Gymraeg i hybu gŵyl, ac mae trefnwyr a’r datblygwyr yn teimlo bod yr iSteddfod yn ddatblygiad hynod gyffrous.

Meddai un o’r datblygwyr, Ambrose Choy:

“Rydw i’n gefnogwr brwd o’r Eisteddfod, ond wedi teimlo erioed nad oedd ‘na ffordd hawdd o gael gafael ar yr wybodaeth i gyd mewn un lle pan yn symud o gwmpas. Cawsom y syniad i greu iSteddfod ar ôl yr Eisteddfod y llynedd, a dyma ni!

“Mae wedi cymryd rhai misoedd a rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Eisteddfod Genedlaethol trwy gydol y broses, a gobeithio y bydd pobl yn ei ddefnyddio ac yn teimlo’i fod yn adnodd gwerthfawr. Rydym ni’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i greu prosiect unigryw yn y Gymraeg, a rydym yn edrych ymlaen i weld nifer o ‘apps’ Cymraeg eraill yn cael eu lansio dros y misoedd nesaf.”

Ychwanegodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod:

“Bydd iSteddfod yn adnodd penigamp ar gyfer ein ymwelwyr yn ystod yr Eisteddfod ac wrth i bobl gynllunio’u wythnos.

“Mae hwn yn sicrhau bod yr Eisteddfod yn berthnasol i gynulleidfa dechnegol aeddfed, ac mae’r ffaith mai dyma’r app cyntaf o’i fath yn y Gymraeg yn hwb, nid yn unig i ni ond hefyd i’r iaith yn gyffredinol. Mae’n dda gweld yr iaith yn cael ei defnyddio ym myd technoleg anc rwy’n edrych ymlaen i weld iSteddfod yn cael ei ddatblygu ymhellach yn y dyfodol.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy o 31 Gorffennaf – 7 Awst. Am ragor o wybodaeth am iSteddfod, ewch i www.fiafo.com. Am wybodaeth am yr Eisteddfod, ewch i www.eisteddfod.org.uk.