Arddangosfa a Digwyddiad Ymrwymo Robocup yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru (RC4EW) 2010 yw twrnamaint Robocup swyddogol cyntaf y Deyrnas Unedig ac fe’i cynhelir yn ystod Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010.

Bydd timau ymchwil roboteg o bob rhan o’r byd yn cystadlu yn y twrnamaint pêl-droed, yn defnyddio robot dynolffurf model safonol, y robot Nao, ond yn defnyddio eu meddalwedd rheoli eu hunain gan alluogi’r robotiaid i chwarae pêl-droed yn annibynnol fel rhan o dîm o dri. Yn ogystal â hyn, yn y Gynghrair Llwyfan Safonol, bydd timau hefyd yn cystadlu yng Nghynghrair Efelychu 3D lle maent yn rheoli tîm o chwe robot efelychu Nao.

Nao yw’r robot dynolffurf gan y cwmni Ffrengig Aldebaran Robotics. Mae’r robot soffistigedig iawn yn 58cm o uchder gyda 21 o gymalau sy’n symud yn unigol. Mae ganddo:

• ddau gamera yn darparu gwybodaeth weledol
• dau ficroffon yn rhoi gallu clyw stereo
• uned mesur inertia yn rhoi ymdeimlad o gydbwysedd iddo
• amrywiaeth o synwyryddion cyswllt gan roi ymdeimlad o gyffyrddiad iddo

Mae’r ymennydd sy’n rheoli’r holl foduron a’r synwyryddion yn PC grymus gyda gallu WiFi. Mae gan y robot Nao eisoes ystod eang o alluoedd uwch megis cerdded ac adnabod wynebau.

robocup 1

Fel elfen wyddonol a thechnolegol o Eisteddfod Genedlaethol 2010, mae Lab Deallusrwydd Robotig, Sefydliad Uwch Ddarlledu – y ddau o Brifysgol Cymru, Casnewydd, mewn cysylltiad â Chyngor Blaenau Gwent a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi trefnu’r digwyddiad pêl-droed robot gyda chymeradwyaeth swyddogol y Ffederasiwn RoboCup Rhyngwladol a chymuned RoboCup y Deyrnas Unedig.

Fe’u defnyddir fel rhan o raglen ymrwymo ac addysg i ddangos technoleg gwybodaeth y dyfodol i bobl a chipolwg ar sut mae technoleg yn newid hyn, yn ogystal â rhoi cyfle i bobl ymwneud â’r technolegau digidol mwyaf cyfoes a dysgu pobl am wyddoniaeth robotig.

Yn y dyfodol bydd gan y robotiaid hyn y gallu i wella ein bywydau. Mae’r bartneriaeth hon gyda’r Labordy Deallusrwydd Robotig yn golygu y bydd ymchwil yn parhau i ddangos sut y bydd datblygiadau technolegol yn llunio ein dyfodol a gwella ein bywyd dydd i ddydd, gan ein cadw yn flaenllaw mewn technoleg.

“Gydag arloesedd a chreadigrwydd yn ganolog i bopeth a wnawn yn y Brifysgol, roedd yn naturiol i’n harbenigwyr o fewn maes Roboteg helpu i wneud i’r twrnamaint hwn ddigwydd,” meddai Dr Peter Noyes, Is-ganghellor Prifysgol Cymru Casnewydd. “Gan ddangos yr hyn y gall robotiaid ei wneud yn defnyddio esiampl pêl-droed, mae serch hynny’n dangos gwerth gwyddonol mwy difrifol y math o ymchwil a wneir gan Labordy Roboteg Casnewydd.”

robocup 2

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Dirprwy Weinidog dros Adfywio: “Mae’r RoboCup yn swnio fel arddangosfa gyffrous iawn ac mae’n dyst fod rhywbeth ar gyfer pawb yn yr Eisteddfod.

“Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod gael ei chynnal ym Mlaenau Gwent am dros 50 mlynedd felly mae llawer o bobl leol nad ydynt efallai yn gyfarwydd gyda’r digwyddiad, ond gyda phethau fel robotiaid a phêl-droed i’w dangos wrth ochr y cystadlaethau a digwyddiadau mwy traddodiadol a llawer o arddangosiadau diddorol eraill, rwy’n annog pawb i fynd draw a phrofi’r Eisteddfod.”

Dywedodd y Cyng Des Hillman, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

“Rydym yn edrych ar ddyfodol Cymru - ac mae dod â’r datblygiadau diweddaraf mewn technoleg gwybodaeth i’r Gweithfeydd i helpu i adfywio gydag ardal Blaenau’r Cymoedd yn un o’r uchelgeisiau a rannwn gyda’r Eisteddfod Genedlaethol.”

Robocup a gweithgareddau robotig yn ystod yr Eisteddfod eleni

Drwy gydol wythnos yr Eisteddfod gall aelodau o’r cyhoedd fynychu sgyrsiau technegol a heb fod yn dechnegol am dechnoleg robot a chystadlu gyda’i gilydd a gyda’r robotiaid annibynnol yn defnyddio’r diweddaraf mewn technoleg rheoli dynolffurf yn cynnwys technoleg dal symudiad byw corff llawn. Gofynnir i ymwelwyr a hoffai roi cynnig ar y robotiaid a gweld y dechnoleg fynd i adeilad y Swyddfeydd Cyffredinol unwaith iddynt fynd drwy fynedfa’r Eisteddfod. Cynhelir y twrnamaint ei hunan dros ddeuddydd yn ystod yr Eisteddfod.

DATGANIAD A RYDDHEIR GAN Y GWEITHFEYDD YW HWN