Iwan ar daith
Nos Iau, 5 Awst, bydd Barddas yn cynnal noson arbennig yn Adeilad y Cyngor, Parc Bryn Bach – y maes carafanau – i gofio Iwan Llwyd drwy gerdd, cân, stori a ffilm, yng nghwmni Emyr Lewis, Myrddin ap Dafydd, Geraint Lovgreen, Ifor ap Glyn, Twm Morys a Mei Mac. Trefnir y noson fel rhan o weithgaredd Maes C, a phris tocyn yw £6.
Bydd y noson yn gyfle i gofio un o feirdd pwysicaf ac arwyddocaol Cymru, bardd a oedd hefyd yn gerddor, ac a roddodd bleser i gynifer ohonom drwy’i waith a’i gwmni da drwy’r blynyddoedd. Cynhelir y noson ar dir Parc Bryn Bach, sef lleoliad Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni, 1990, pan enillodd Iwan y Goron. Ymunwch â ni i’w gofio mewn noson arbennig iawn.
Ffoniwch 0845 122 1176 i brynu tocynnau.



