Digwyddiad sy’n arwydd clir bod yr Eisteddfod ar y ffordd yw cyhoeddi’r Rhgalen Swyddogol. Mae’r Rhaglen yn benllanw misoedd o waith ymchwil, trefnu, ysgrifennu a golygu, ac yn creu llyfr sy’n ganllaw angenrheidiol ar gyfer pob Eisteddfodwr.

Mae’n llawn o wybodaeth ddefnyddiol am yr wythnos, manylion yr hyn sy’n digwydd ym mhob Pafiliwn, a nifer fawr o straeon a hanesion difyr iawn am bob math o bethau Eisteddfodol. Mae’n fwy na rhaglen yr wythnos, mae’n gip ar Eisteddfodau lleol y gorffennol, yn atgofion cyn-enillwyr ac yn sicr o dynnu dŵr o ddannedd unrhyw un sy’n hoff o’r Eisteddfod!

Gellir prynu’r Rhaglen mewn siopau llyfrau ar hyd a lled y wlad, neu gallwch archebu copi arlein drwy siop yr Eisteddfod – www.eisteddfod.org.uk – neu drwy ffonio’r Llinell Docynnau – 0845 122 1176.