Sut i'n cyrraedd
Yr hen weithfeydd dur ar gyrion tref Glyn Ebwy yw lleoliad Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd eleni, ac mae’n safle arbennig o gyfleus ar gyfer ymwelwyr sy’n dod i Lyn Ebwy o bob cyfeiriad.
Mae’n agos iawn at Heol Blaenau'r Cymoedd, yr A465, ac yn hawdd i’w gyrraedd o’r M4 a’r A470, a hefyd yn gyfleus ar gyfer unrhyw un sy’n dod i’r Eisteddfod gan ddefnyddio’r A49.
Bydd system draffig arbennig yn weithredol dros gyfnod yr Eisteddfod, a bydd hon yn gweithio fel a ganlyn:
Traffig o’r gogledd orllewin, canolbarth a gorllewin Cymru, ynghyd â thraffig o Gaerdydd – bydd ceir yn dilyn yr A465 o Bentrebach, Merthyr a Dowlais, tan gylchfan Stad Ddiwydiannol Rassau, lle bydd maes parcio wedi’i ddarparu. Bydd bysiau gwennol yn teithio’n ôl a blaen i’r Maes drwy gydol y dydd a chyda’r nos, ac yn stopio’r tu allan i’r brif fynedfa.
Traffig o’r dwyrain – bydd ceir yn gadael yr A465 ym Mrynmawr ac yn teithio ar hyd yr A467 i gylchfan Aberbeeg o gyfeiriad Y Fenni ac yn troi i’r dde ar yr A4046, Yna bydd arwyddion yn eich arwain i faes parcio ym mhentref Cwm. Bydd bysiau gwennol yn teithio’n ôl a blaen i’r Maes drwy gydol y dydd a chyda’r nos, ac yn stopio’r tu allan i’r brif fynedfa.
Traffig o’r de (gan gynnwys Caerffili a Chasnewydd) – bydd traffig yn cael ei arwain o gylchfan Aberbeeg (A467 / A4046) tuag at Lyn Ebwy. Yna bydd arwyddion yn eich arwain i faes parcio ym mhentref Cwm. Bydd bysiau gwennol yn teithio’n ôl a blaen i’r Maes drwy gydol y dydd a chyda’r nos, ac yn stopio’r tu allan i’r brif fynedfa.
Bydd parcio ar gyfer yr anabl yn y meysydd yn Rassau a Cwm, ac mae’r bysiau gwennol yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n defnyddio cadair olwyn.
Mae Arriva Trains Wales yn gweithredu gwasanaeth o Gaerdydd i Lyn Ebwy bob awr, gan gychwyn o Gaerdydd am 35 munud wedi’r awr a chyrraedd am 31 munud wedi’r awr. Bydd y trenau’n ôl i Gaerdydd yn gadael Glyn Ebwy am 40 munud wedi’r awr gan gyrraedd am 37 munud wedi’r awr. Bydd tren ychwanegol yn rhedeg yn ystod wythnos yr Eisteddfod am 23.40. Bydd bysiau gwennol yn rhedeg o’r orsaf i’r Maes yn rheolaidd.
Mae gwasanaeth bws X4 yn gadael gorsaf fysiau Caerdydd bob hanner awr, am 5 munud wedi’r awr a 35 munud wedi’r awr. Mae’r daith i Lyn Ebwy’n cymryd awr a hanner. Mae bysiau’n gadael Glyn Ebwy ar yr awr ac am hanner awr wedi’r awr i ddychwelyd i Gaerdydd. Am ragor o fanylion ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/



