Bydd cornel fach o Ibiza’n cyrraedd Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd nos Sadwrn 31 Gorffennaf, pan gynhelir Parti Swigod fel rhan o noson ddawns ym Maes B. Dyma fydd noson agoriadol gŵyl gerddoriaeth Gymraeg orau a mwyaf Cymru.

Bydd rhai pobl yn cofio nosweithiau tebyg rai blynyddoedd yn ôl ac mae trefnydd Maes B, Guto Brychan, yn falch o’r cyfle i ail-gyflwyno dipyn o fybls i fwrlwm y Brifwyl. Meddai:

“Pa well ffordd i gychwyn wythnos o gigs ym Maes B na chyda Parti Swigod. Bu sôn ers dipyn am sut y byddai’n hwyl trefnu bybls unwaith eto, a roedd y lein-yp ar gyfer nos Sadwrn eleni’n berffaith ar gyfer digwyddiad o’r fath. Y gobaith yw y bydd yn annog pobl ifanc o ardal yr Eisteddfod i ddod draw, cael blas ar gerddoriaeth Gymraeg a dychwelyd eto wedyn yn nes ymlaen yn yr wythnos.”

I brynu tocynnau cliciwch yma neu ffoniwch 0845 122 1176. Am ragor o wybodaeth am Maes B ewch i www.maesb.com.