Daniel Evans yw Llywydd yr Wyl
Daniel Evans, un o feibion y dalgylch, yw Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.
Enillodd Daniel Wobr Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990, Eisteddfod a gynhaliwyd ar dir Parc Bryn Bach, safle’r maes carafanau eleni. Dyma oedd y tro cyntaf i gystadleuaeth Gwobr Richard Burton gael ei chynnal.
Ganed Daniel yn y Rhondda ac fe’i hyfforddwyd yng ngholeg y Guildhall yn Llundain. Gweithiodd gyda Chwmni Brenhinol Shakespeare, Theatr Genedlaethol Prydain a Theatr y Llys Brenhinol ymhlith eraill.
Perfformiodd mewn dramâu gan Shakespeare, Ibsen, J.M. Barrie, Sarak Kane, Christopher Shinn, Peter Gill a sioeau cerdd gan Berstein a Sondheim. Enillodd ddwy wobr Olivier am ei berfformiadau yn Merrily We Roll Along (Donmar Warehouse) a Sunday in the Park With George (Menier/Wyndhams/Broadway) a Gwobr Goffa Ian Charleson am ei berfformiad fel Ariel yn Y Dymestl (Crucible/Old Vic).

Ymhlith ei waith teledu a ffilm, mae Love in a Cold Climate, Daniel Deronda, Tomorrow La Scala, Y Mabinogi, Great Expectations, The Passion, To The Ends of the Earth a Doctor Who.
Mae Daniel hefyd yn gyfarwyddwr ac yn 2009, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Artistig ar Theatrau Sheffield (tair theatr yng Ngogledd Lloegr). Ail-agorwyd Theatr y Crucible yn gynt eleni gyda'i gynhyrchiad o Gelyn y Bobl gan Ibsen.
Mae Daniel yn dilyn ôl troed rhai o fawrion Cymru yn ei rôl fel Llywydd yr Ŵyl, gyda’r cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, yr Arglwydd Gwilym Prys Davies, yr Athro Prys Morgan, Guto Harri a Dafydd Wigley, i gyd wedi bod yn Lywyddion dros y blynyddoedd diwethaf.
Flynyddoedd yn ôl, roedd Llywydd ar gyfer pob dydd, ond ers blynyddoedd bellach, un Llywydd sydd ar gyfer yr wythnos gyfan. Bu David Lloyd George yn Lywydd y Dydd ar ddydd Iau am flynyddoedd lawer, a chafodd gwleidyddion eraill amlwg, gan gynnwys Gladstone, eu hanrhydeddu yn yr un ffordd.
Eleni, bydd Daniel yn traddodi araith o lwyfan y Pafiliwn nos Fercher, ac mae hefyd yn feirniaid cystadleuaeth Gwobr Richard Burton, y gystadleuaeth a roddodd lwyfan iddo ef ugain mlynedd yn ôl.



