Mae Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn paratoi rhestr o westai, gwestai preifat, tai gwely a brecwast, a thai preifat, ynghyd â darpariaeth llety hunan-arlwyo, yn barod ar gyfer yr Ŵyl sy’n ymweld â’r ardal rhwng 31 o Orffennaf – 7 Awst 2010.

Rydym yn gobeithio croesawu tua 160,000 o ymwelwyr i Flaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn ystod wythnos yr Eisteddfod, a rydym yn paratoi rhestr gweddol gyflawn o leoedd i aros. Ydych chi’n gallu helpu?

Gallwch lawrlwytho’r ffurflen o’r dudalen hon, a’i dychwelyd, naill ai drwy ebost at gwyb@eisteddfod.org.uk neu drwy’i hanfon at Sioned Edwards, Swyddfa’r Eisteddfod, 40 Parc Ty Glas, Llanisien, CAERDYDD, CF14 5DU. Bydd y manylion yn cael eu cynnwys ar fas-data llety ar gael yn yr ardal, a bydd hwn ar gael ar y safle yma ac anfonir y manylion at bawb fydd yn cysylltu â Swyddfa’r Eisteddfod.

Bydd y rhai sydd â diddordeb yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i wneud trefniadau ac i drafod telerau. Ni fydd yr Eisteddfod yn gyfrifol am unrhyw drefniant gan mai ar delerau busnes fydd y trefniant rhyngoch. Ni fyddwn chwaith yn darparu manylion am gyfraddau na chyfleusterau.

Rydym yn awyddus i letya cynifer o ymwelwyr ag sy’n bosibl yn ystod wythnos yr Ŵyl ac felly gwerthfawrogwn unrhyw gymorth. Nid oes unrhyw dâl am gael eich cynnwys ar y rhestr ac ni fyddwn yn gweithredu fel asiantaeth.