Cafodd tref Glyn Ebwy ddiwrnod i’w gofio ddydd Sadwrn, 27 Mehefin, gyda chynnal gŵyl arbennig i’r teulu cyfan i gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010.

Gyda 1500 o bobl a sefydliadau’r ardal yn gorymdeithio drwy’r dref, a channoedd yn fwy yn ymuno’n y bwrlwm wrth ymyl Cerrig yr Orsedd, mae’r neges mai ychydig dros flwyddyn sydd ar ôl cyn i’r Eisteddfod gyrraedd Blaenau Gwent eisoes wedi dal dychymyg pobl leol o bob oed .

Gorymdaith Cyheoddi 2010

Yn ogystal â’r Seremoni Gyhoeddi draddodiadol, pan gyflwynir y copi cyntaf o’r Rhestr Testunau gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith i’r Archdderwydd, trefnwyd diwrnod cyfan o weithgareddau ar gyfer plant a phobl o bob oed, a bu hwn yn llwyddiant mawr gyda phobl Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.

Mae’r ardal gyfan yn edrych ymlaen i groesawu’r Eisteddfod yn ôl i Lyn Ebwy, hanner cant a dwy o flynyddoedd ers ei chynnal yn y dref ym 1958. Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Richard Davies, yn ei ragymadrodd i’r Rhestr Testunau:

“Yn ddi-os, mae tref Glyn Ebwy wedi newid cryn dipyn ers 1958. Diflannodd y diwydiannau trwm, y gwaith dur a’r pyllau glo. Taflodd dirwasgiad ei gysgod dros y lle. Ond erbyn hyn mae adfywiad gydag egni a gobaith, brwdfrydedd a balchder i’w gweld yn y fro ac yn ei thrigolion.”

Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2010

Ychwanegodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts:

“Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol groeso twymgalon ym Mlaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd dros y Sul, ac mae hyn yn argoeli’n hynod o dda am wythnos i’w chofio yn 2010. Bu’r berthynas arbennig rhyngom ni a’r Cyngor yn hwb gwirioneddol i’n gwaith yn yr ardal, a ffrwyth llafur hyn oedd y gweithgareddau amrywiol a gynhaliwyd yng Nglyn Ebwy.

“Mae llwyddiant y Cyhoeddi a nifer y rheini a fu’n gorymdeithio drwy’r dref yn ystod y dydd yn deyrnged teilwng i gefnogaeth pobl leol, a rydym yn edrych ymlaen i gydweithio gyda phobl Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd dros y flwyddyn nesaf,” meddai.