Maes D

Dysgu Cymraeg?  Dyma'r lle i fod!

Pabell fawr yw Maes D gyda llawer o weithgareddau i bawb sy'n dysgu Cymraeg.  Dewch i ddweud 'Shwmae' a chwrdd â phobl eraill fel chi sy'n dysgu Cymraeg!

Eisiau helpu?

Hoffech chi helpu ym Maes D yn yr Eisteddfod?  Dyn ni angen llawer o wirfoddolwyr i helpu yn y babell:  yn croesawu ymwelwyr, sgwrsio yn Gymraeg a helpu yn y caffi. Os oes diddordeb gyda chi mewn gwirfoddoli ym Maes D, argraffwch ffurflen 'Maes D Ffurflen Gwirfoddoli' ac wedyn anfonwch yn ôl at Jo Knell yn Swyddfa'r Eisteddfod: 40 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU. Byddwn ni'n cysylltu â chi wedyn i drefnu pa ddiwrnod dych chi eisiau gweithio.

Hefyd, gallwch e-bostio Jo Knell, Swyddog Datblygu'r Gymraeg:  jo@eisteddfod.org.uk   ffôn:  02920 763777

Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn

Uchafbwynt gweithgarwch Maes D bob blwyddyn yw cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.  Mae'r gystadleuaeth yn agored i unrhyw oedolyn sy wedi dysgu Cymraeg.  Mae pedwar person wedi cyrraedd rownd derfynol 2010 erbyn hyn:  Shirley Cottam o Aberystwyth, Julia Hawkins o Grucywel, Helen Price o Goed Duon a Dai Williams o Ystalyfera.  Bydd cyfle i gwrdd â nhw ym Maes D yn ystod yr Eisteddfod!  Bydd y pedwar yn ateb cwestiynau'r gynulleidfa ddydd Mercher 4ydd Awst am 3 o'r gloch.  Dewch draw i gael eich ysbrydoli!

Y beirniaid ar gyfer y rownd derfynol yw Robat Powell, Roy Noble a Donna Edwards a'u swyddogaeth nhw yw dewis un enillydd.  Cyhoeddir enw'r buddugol yn ystod Noson Dysgwr y Flwyddyn a gynhlelir yn Sefydliad y Glowyr, Llanhiledd, nos Fercher 4ydd Awst am 7 o'r gloch.  Bydd bwffe a thwmpath gyda'r band Jac-y-Do.  Mae tocynnau ar werth nawr o Swyddfa'r Eisteddfod - Pris: £15. 

Cystadlaethau eraill i ddysgwyr

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod cynhelir cystadlaethau eraill i ddysgwyr hefyd.  Cyhoeddir holl ganlyniadau'r cystadlaethau ysgrifenedig mewn seremoni ym Maes D brynhawn dydd Mawrth 3ydd Awst am 2 o'r gloch gydag Archdderwydd Cymru, Jim Parc Nest. 

Cynhelir cystadlaethau perfformio i ddysgwyr ym Maes D ar y dydd Mercher a'r dydd Iau fel a ganlyn:

Dydd Mercher 4ydd Awst

11:00    Cystadleuaeth 116:  Canu unawd i ddysgwyr

12:00    Cystadleuaeth 120:  Sgets i ddysgwyr

12:30    Cystadleuaeth 117:  Grwp canu i ddysgwyr 

Dydd Iau 5ed Awst

9:00     RHAGBRAWF Cystadleuaeth 115:  Llefaru unigol i ddysgwyr

1:00    Cystadleuaeth 119:  Cyflwyno stori ddoniol neu gyfres o jôcs

1:30    Cystadleuaeth 118:  Parti Llefaru i ddysgwyr

Dewch i draw i gefnogi ac i fwynhau!

Yr Ŵyl yn Eich Poced

Edrychwch ar lyfr ‘Yr Ŵyl yn Eich Poced’. Mae'n ganllaw gwych ar gyfer dysgwyr, yn sôn am yr Eisteddfod, gan gynnwys ei hanes, beth i'w wneud yna a geirfa ddefnyddiol.  Mae copi yma ar-lein neu gallwch ofyn am gopi eich hunain oddi wrth Swyddfa'r Eisteddfod. 

Gwybodaeth am ddysgu Cymraeg

Os dych chi'n chwilio am wybodaeth am ddysgu Cymraeg, edrychwch ar y canlynol: http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/wfasub/welshforadults/?skip=1&lang=cy