Dechreuodd Maes B yn 1997 yn Y Bala.  Y flwyddyn honno, cyflwynodd Maes B genhedlaeth newydd o gerddorion i'r sîn gerddoriaeth Gymraeg - cerddorion sydd, wedi datblygu'n rhan o'n sîn lewyrchus.

Mae Maes B yn dathlu doniau Cymreig ac yn cyfuno cymysgfa ddelfrydol, gan ddenu dros 10,000 o ymwelwyr a thros 40 o fandiau yn ystod yr wythnos.  Erbyn hyn, mae wedi datblygu'n un o lwyfannau prysuraf y sîn ac mae'r system sain a goleuadau yn y babell fawr heb ei hail.

Mae’r Eisteddfod yn cydweithio gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg eleni a thros y blynyddoedd nesaf er mwyn sicrhau bod ystod eang o’r adloniant gorau posib yn cael ei gynnig i gynulleidfa amrywiol, gan gynnig llwyfan a chyfleoedd i artistiaid newydd hefyd.

Poster Maes B 2010

Lleolir Maes B ger y prif Faes ar safle'r Gweithfeydd, Glyn Ebwy. I brynu tocynnau, cliciwch yma

Am ragor o fanylion ewch i www.maesb.com, www.facebook.com/maesb neu gallwch ddilyn Maes B ar www.twitter.com/maes_b.