Maes C
Maes C - y lle perffaith i'r rheini sy'n awyddus i fwynhau rhagor o awyrgylch yr Eisteddfod gyda'r nos neu dros beint neu ddau. Os yw Maes B yn ymddangos braidd yn wyllt i chi erbyn hyn, ond dydych chi ddim yn barod am sedd gadw yn y Pafiliwn eto, mae Maes C yn cynnig rhaglen amrywiol iawn o farddoniaeth, cerddoriaeth a llawer mwy.
Gyda'r gallu i gyfuno grwpiau newydd a ffres efo hen stejars go iawn, mae Maes C yn yfle gwych i fwynhau'r gorau sydd gan Gymru i'w chynnig mewn awyrgylch braf a chyfeillgar - heb anghofio bar hwyr bob noson.
Ym Mharc Bryn Bach, sef safle’r maes carafanau swyddogol, y bydd Maes C eleni, a bwriad y nosweithiau hyn yw parhau â’r awyrgylch hwyliog a chyfeillgar a geir o amgylch y llwyfannau perfformio a’r patios bwyd yn ystod y dydd.
Mynediad am Ddim sy'n cychwyn yr wythnos ar nos Sadwrn, yna bydd Gwibdaith Hen Frân a Disco Aled Wyn i’w gweld – a’u clywed nos Sul mewn noson arbennig ar gyfer y teulu cyfan.
Tecwyn Ifan a Huw M fydd yn perfformio ym Maes C nos Lun, gydag Ail Symudiad a Geraint Lovgreen, nos Fawrth. Bydd nos Fercher yn noson heb ei hail, gyda phob math o berfformiadau, yn gerddoriaeth, barddoniaeth, comedi, dawnsio – tipyn o bopeth, sy’n sicr o apelio at bawb. Ymysg y rheini sy’n cymryd rhan mae Sesh Bach gyda Dewi Pws a Radwm, Gary Slaymaker a’r Glêr.
Beth am gychwyn y penwythnos ychydig yn gynnar yr wythnos hon – a pha well ffordd i wneud hyn na chyda Tebot Piws a Twmffat – noson sy’n sicr o werthu allan ymhell cyn y ‘Steddfod. Noson arall fydd wedi hen werthu allan yw nos Wener, sef Stomp yr Academi, sydd, dros y blynyddoedd, wedi hen ennill ei phlwyf fel noson fwya’r Eisteddfod i nifer fawr o bobl.
A phwy well i gau pen y mwdwl ar yr wythnos i gyd na’r meistr ei hun – Meic Stevens, a fydd yn rhannu llwyfan gyda’r Al Lewis Band.
I brynu tocynnau i Maes C, cliciwch yma.



