Yn Y Lle Celf ym Mlaenau Gwent, cynhelir arddangosfa aml-gyfrwng fawr ym mhob disgyblaeth, boed celfyddyd gain neu gelfyddyd gymhwysol (gan gynnwys y ddelwedd symudol neu gelfyddyd berfformans).

Mae'r Lle Celf yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Rydym wedi dilyn hanes a thaith Y Lle Celf dros y misoedd diwethaf wrth i’r pydew tanddaearol gael ei drawsnewid i mewn i oriel gelf genedlaethol Cymru – Y Lle Celf. Mae’n o brosiectau mwyaf cyffrous ac uchelgeisiol yr Eisteddfod erioed, ac wrth i ni agosau at yr agoriad, mae’n anodd dychmygu faint o waith a fu’r trawsnewidiad hwn.

Y Lle Celf cyn ei drawsnewid

Fis Mawrth eleni, pan y cyhoeddwyd y lluniau cyntaf o’r pydew, anodd oedd dychmygu y gallai prosiect mor fawr weld golau dydd, ond gyda dyddiau’n unig i fynd tan yr Eisteddfod, mae’r prosiect adeiladu’n tynnu tua’i derfyn, ac mae’n argoeli mai Y Lle Celf Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd fydd un o’r orielau celf mwyaf tanddaearol yn y byd pan y’i hagorir yn swyddogol nos Sadwrn 31 Gorffennaf.

Rydym wedi creu oriel luniau yn dilyn y gwaith o greu Y Lle Celf eleni, a chyda ffotograffydd yno ar ein rhan nifer o weithiau bob wythnos ar hyn o bryd, gellir gweld y gwahaniaeth yn yr adeilad bob tro. Mae rhai o’r lluniau hyn i’w gweld ar facebook hefyd.

Y Lle Celf cyn ei drawsnewid

Eleni, mae’r adeilad ei hun yn mynd i chwarae rhan bwysig yn Y Lle Celf. Mae’r adeilad a’r prosiect ei hun yn cynrychioli’r hyder sydd gennym ni fel cenedl yn y sector gelf ac yn ein diwylliant yn gyffredinol. Cafodd hanes a chefndir diwydiannol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymroedd effaith ddofn arnom ni fel cenedl, ac mae’r effaith yma i’w weld yn y byd celf. Mae gweithiau cynifer o’n hartistiaid yn defnyddio elfennau o ddiwydiant a’r gorffennol i edrych i’r dyfodol, felly mae’r ffaith ein bod yn defnyddio gofod hollol ddiwydiannol ar gyfer yr arddangosfa’n sicr o daro deuddeg.

Pa well cartref i arddangosfa sy’n clymu’r gorffennol diwydiannol gyda’r dyfodol diwylliannol na phydew dwfn y stack annealer basement – darn o un o’r gweithfeydd dur pwysicaf yn y byd, pydew a fu’n weithle i ddegau o ddynion ar ei anterth, wrth i’r dur gael ei baratoi er mwyn gadael Glyn Ebwy a theithio i bedwar ban byd.
Meddai Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod:

Trawsnewid Y Lle Celf, Gorffennaf 2010

“Dydw i erioed wedi teimlo’r fath gyffro wrth roi arddangosfa at ei gilydd o’r blaen. Mae’r Lle Celf eleni wedi tanio dychymyg cynifer o’n hartistiaid, a’r cyfle i arddangos mewn gofod mor unigryw wedi apelio at y rheini sy’n gweithio mewn pob math o feysydd. Rwy’n mawr obeithio y bydd pobl yn tyrru i’r Lle Celf ar y Maes eleni – bydd y cyfuniad o’r arlwy ardderchog a’r awyrgylch arbennig yn sicr o greu profiad cwbl newydd a gwahanol i bawb sy’n mwynhau Y Lle Celf.”

Ydych chi wedi gweld tudalen Y Lle Celf ar facebook?  Byddwn yn ei diweddaru'n rheolaidd gyda phob math o wybodaeth am Y Lle Celf a straeon eraill o'r byd celfyddydol felly ewch draw er mwyn cael cyfle i fynegi barn.

Trawsnewid Y Lle Celf, Gorffennaf 2010

Gweithgareddau Y Lle Celf yn ystod wythnos yr Eisteddfod

Dydd Llun 2 Awst

11.00 Llun a Llên – Frank Olding

15.00 Cyflwyno Gwobr Ifor Davies

Dydd Mawrth 3 Awst

12.00 Cyflwyniad gan Osi Rhys Osmond yn Cymdeithasau 1 

14.00 Jochen Eisentraut

Dydd Iau 5 Awst

14.00 Jochen Eisentraut

Dydd Gwener 6 Awst

12.00 Celf yr Eisteddfod

12.00 Brandio a Phecynnu Cymru – cyflwyniad gan Gafyn Owen yn Cymdeithasau 1

Dydd Sadwrn 7 Awst

14.00 Cloriannu Celfyddydyd Eisteddfod 2010

15.00 Dewis y Bobl 2010