Gweithgareddau Lleol
Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau lleol yn ardal Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd, sydd wedi'u trefnu i hyrwyddo ac i godi proffil Eisteddfod Genedlaethol 2010.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai gwirfoddolwyr lleol sy'n gyfrifol am drefnu'r gweithgareddau hyn, a rydym ym cyhoeddi'r manylion sydd gennym yn llawn am bob gweithgaredd. Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am wethgareddau lleol, gallwch anfon ebost at Gadeirydd y Pwyllgor Lleol - richard@eisteddfod.org.uk
Os ydych chi'n gwybod am weithgaredd neu ddigwyddiad, cysylltwch â ni gyda'r wybodaeth, drwy ebostio gwyb@eisteddfod.org.uk.
Rhestr digwyddiadau
Bob nos Lun: Ymarfer Côr yr Eisteddfod, Capel Libanus, Ffordd Libanus, Glyn Ebwy, am 19.30. Ymunwch gyda'r arweinydd, Alun Guy, i ganu a mwynhau Offeren Requiem Mozart yn D leiaf
19/07/10: Gwerthiant Tseiniaidd a Bingo - Wetherspoons, Pontypwl am 19.00. Tocynnau - £5
23/07/10: 80s Disco, Clwb Criced a Rygbi Croesyceiliog. Tocynnau - £4
31/07/10 - 07/08/10: Marchnad Gymreig yn Festival Park. Bydd bws gwennol yn rhedeg o'r Maes i'r Ganolfan ar yr awr, gyda'r bws yn dychwelyd i'r Maes am chwarter i'r awr
02/08/10 - 06/08/10: Siopau Festival Park ar agor tan 19.00
02/08/10: The Young Dimensions Dance Group yn Festival Park o 13.00 - 15.00
03/08/10:Côr Meibion Beaufort yn Festival Park o 14.45 - 16.00
05/08/10: Côr Meibion Glyn Ebwy yn Festival Park o 14.00 - 16.00
06/08/10: Côr Meibion Abertyleri yn Festival Park o 14.00 - 16.00
07/08/10: Côr Orffiws Tredegar yn Festival Park o 12.00 - 13.30



