Mae 'na bob math o weithgareddau ar gael ar gyfer plant o bob oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol.  Rydym yn hyrwyddo'r penwythnos cyntaf yn arbennig fel penwythnos y teulu, pan mae gweithgareddau o bob math yn digwydd ar hyd a lled y Maes. 

Yn 2009, trefnodd yr Eisteddfod, ein partneriaid a'r stondinwyr dros 600 o weithgareddau ar gyfer plant a theuluoedd yn ystod yr wythnos.

Bydd yr adran hon yn cynnwys manylion gweithgareddau ar gyfer plant a theuluoedd ar y Maes, yn ogystal â gweithgareddau a drefnir fel rhan o'r paratoadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd. 

Rydym hefyd yn gobeithio datblygu cyfres o drêls ar gyfer plant o amgylch y Maes a byddwn yn cynnwys gwybodaeth am y rhain ar y dudalen hon.

Mae 10,000 o blant yn ardaloedd Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd eisoes wedi derbyn llyfryn gweithgareddau, sy'n llawn gwybodaeth am yr Eisteddfod - a digonedd i'w wneud! 

Gallwch lawrlwytho'r llyfryn o'r dudalen hon.  Gadewch i ni wybod beth yw'ch barn, a byddwn yn diweddaru'r dudalen hon yn rheolaidd.