Iaith yr Eisteddfod
Eisteddfod Genedlaethol Cymru yw gŵyl ddiwylliannol mwyaf Cymru, sy’n cael ei chynnal drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a disgwylir i’r holl stondinau barchu’r rheol Gymraeg drwy gael siaradwr Cymraeg ar y stondin drwy’r amser ynghyd â chael mwyafrif o lenyddiaeth y stondin yn Gymraeg hefyd.
i. RHAID I BOB ARWYDD Y TU MEWN A THU ALLAN I’R STONDINAU FOD YN YR IAITH GYMRAEG NEU’N DDWYIEITHOG, ond rhaid rhoi’r Gymraeg yn gyntaf ac yn amlycach nag unrhyw iaith arall a ddefnyddir.
ii. Gan mai Cymraeg yw iaith yr Eisteddfod dylai stondinwyr ddisgwyl felly fod cwsmeriaid ac ymwelwyr yn gwneud ymholiadau ac yn archebu trwy gyfrwng y Gymraeg. O’r herwydd dylid sicrhau fod staff sy’n siarad Cymraeg yn bresennol drwy gydol yr amser. Os byddwch angen siaradwr Cymraeg i weithio ar eich stondin yn ystod yr Eisteddfod, bydd modd i chi hysbysebu hynny ar ein gwefan o fis Mai / Mehefin ymlaen.
iii. Disgwylir i’r mwyafrif o’r pamffledi ac ati o fewn y pebyll fod yn y Gymraeg.
Rhaid i bob stondinwr gydymffurfio â’r rheolau hyn.
DS Bydd Swyddfa’r Eisteddfod yn barod i gynorthwyo gyda pharatoi mân gyfieithiadau i’r Gymraeg, ond dylid rhoi digon o rybudd. Gall Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru 01248 371839 www.cyfieithwyrcymru.org.uk) roddi cyngor ynglŷn â phwy all ymgymryd ag unrhyw dasg fwy am delerau ffafriol.
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cynnig Gwasanaeth Cyfieithu a Phrawfddarllen am ddim!
Rhaid i bopeth y mae’r cyhoedd yn ei weld a’i ddarllen fod yn Gymraeg ar faes yr Eisteddfod. Mae gwneud hyn yn hawdd ac mae am ddim:
Mae'r Llinell Gyswllt yn:
• cyfieithu hyd at 30 o eiriau
• cyfieithu bwydlenni o bob math
Cyn ichi godi arwydd neu gyhoeddi hysbyseb, mae’r Llinell Gyswllt hefyd yn:
• golygu hyd at 75 o eiriau
Gadewch ymholiad yn www.byig-wlb.org.uk/llinellgyswllt
Ffoniwch 0845 607 6070
Anfonwch neges destun at 0762 480 4130
Anfonwch ffacs: 01248 725 735



