Eisteddfod Genedlaethol Cymru yw gŵyl ddiwylliannol mwyaf Cymru, yn seiliedig ar 800 mlynedd o draddodiad. Cynhelir popeth drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a disgwylir i’r holl stondinau barchu’r rheol Gymraeg drwy gael siaradwr Cymraeg ar y stondin drwy’r amser ynghyd â chael mwyafrif o lenyddiaeth y stondin yn Gymraeg hefyd.

Mae’r Wyl, sy’n denu tua 160,000 o ymwelwyr yn flynyddol mewn lleoliad gwahanol bob blwyddyn.

Y Maes

Yng nghanol y Maes ceir y prif bafiliwn lle cynhelir y cystadlaethau amrywiol, seremonïau’r Orsedd a chyngherddau mawreddog gyda’r nos. Yn ogystal â hyn ceir nifer o bafiliynau llai o gwmpas y Maes megis arddangosfa gelf a chrefft, pabell lên, neuadd ddawns, ardal chwaraeon ynghyd â phabell gwyddoniaeth a thechnoleg, canolfan i ddysgwyr a theatr.

O gwmpas y cyfan ceir ymhell dros 300 o stondinau amrywiol yn cynnwys crefftau Cymreig o bob math, siopau llyfrau, gemwaith, orielau, offer cerddorol ayb. Mae maes carafanau wedi ei leoli ger y Maes sy’n rhoi cartref i filoedd o eisteddfodwyr brwd am yr wythnos.

Os ydych yn awyddus i gyflwyno’ch cynnyrch gerbron marchnad eang a marchnad Gymreig, yna mae’r Eisteddfod yn eich galluogi i wneud hynny am bris rhesymol.

Mae nifer o siopau a chwmnïau yn dod i’r Eisteddfod i gael sylw cenedlaethol a gwerthu eu cynnyrch.

Mae rhai yn dewis lawnsio eu cwmni yn yr Eisteddfod. Mae’r holl gyrff Cymreig, y sefydliadau proffesiynol, cymdeithasau gwirfoddol ac elusennau hefyd yn bresennol.

Mae nifer o opsiynau ar gael – llogi unedau 3m x 6m, cymryd gofod o fewn y Neuadd Arddangos, llogi adeilad pwrpasol neu dod â cerbyd arddangos neu pabell eich hunain.

Dewch i’r Eisteddfod i hybu eich cwmni a’ch cynnyrch – gewch chi ddim eich siomi !