Mae’n rhaid darllen, deall a chytuno i gydymffurfio â’r rhain i gyd cyn y gallwn dderbyn unrhyw gais.

Y Datganiad
Rheol Iaith
Yswiriant Eiddo Ac Atebolrwydd Cyhoeddus (Public Liability))
Difrod
Iechyd A Diogelwch
Offer Ymladd Tân
Alcohol
Casglu Arian
Rhyddid y Maes
Torri Rheolau
Cwynion
Diddymu Cais


DATGANIAD: MAES YR EISTEDDFOD

Wrth geisio llunio polisi ar gyfer gweithgareddau mudiadau a chwmnïau sy’n awyddus i osod stondinau ar faes yr Eisteddfod, y mae’r Cyngor yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd amrywiaeth a bywiogrwydd y Maes i lwyddiant yr Eisteddfod, i fwynhad eisteddfodwyr, i ryddid barn a mynegiant ac i’r holl weithgareddau hynny sy’n rhan o fywyd ein cenedl ac o fywyd ein cydwladwyr.
Prif egwyddor y canllawiau sy’n dilyn yw caniatau’r rhyddid ehangaf bosibl i bob mudiad ddod i gyflwyno’u hachos ac i hyrwyddo’u buddiannau gan gofio bod i bawb yr un rhyddid a bod gan bobl sydd am gerdded y maes heb ymyrraeth na rhwystr, yr hawl i wneud hynny.

Y mae rhyddid, felly, i’r sawl sy’n llogi stondinau werthu neu gynnal gweithgareddau o fewn eu stondinau, ac mae pob hawl hefyd i gynnal cyfarfodydd yn y pebyll a ddarparwyd ar gyfer hynny. Nid oes, fodd bynnag, hawl i werthu ar hyd y maes, ac eithrio yn yr achosion hynny fel gwerthu papurau newydd, lle mae’n hen arfer cydnabyddedig. Nid oes hawl, chwaith i gynnal y math o orymdeithiau a phrotestiadau sydd naill ai’n tarfu ar weithgareddau ac awyrgylch yr Eisteddfod neu’n rhwystro gweithgareddau neu’n difrodi eiddo mudiadau eraill.

Gofynnir, felly, i bawb sy’n gwneud cais am stondin ar y maes ddatgan yn ysgrifenedig ar y ffurflen gais eu parodrwydd i barchu rheol Gymraeg yr Eisteddfod yn eu stondinau ac i ymrwymo i barchu hawliau pawb arall, yn fudiadau ac yn eisteddfodwyr unigol, i ddilyn eu buddiannau a’u diddordebau yn rhydd a dilyffethair. Bydd yr Eisteddfod yn ystyried torri ymrwymiad fel rheswm digonol dros wrthod caniatâd ar gyfer Eisteddfodau yn y dyfodol.

Mae dau fath o achos lle bydd yr Eisteddfod yn gwrthod ceisiadau. Y naill yw achos lle y byddai gwerthu nwyddau neu gynnal gweithgareddau yn creu problemau ymarferol. Mewn achosion o’r fath bydd hawl gan y Trefnydd mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr i wrthod ceisiadau. Y llall yw achos lle y byddai caniatau cais yn debyg o beri tramgwydd i drwch yr eisteddfodwyr neu i egwyddorion canolog yr Eisteddfod. Lle mae’r Trefnydd yn tybio y gallai cais wneud hynny, fe ddylid, ar ôl ymgynghori â’r Prif Weithredwr, drosglwyddo’r cais i’r Cyngor i wneud penderfyniad terfynol.


IAITH

Eisteddfod Genedlaethol Cymru yw gŵyl ddiwylliannol mwyaf Cymru, sy’n cael ei chynnal drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a disgwylir i’r holl stondinau barchu’r rheol Gymraeg drwy gael siaradwr Cymraeg ar y stondin drwy’r amser ynghyd â chael mwyafrif o lenyddiaeth y stondin yn Gymraeg hefyd.

ii. RHAID I BOB ARWYDD Y TU MEWN A THU ALLAN I’R STONDINAU FOD YN YR IAITH GYMRAEG NEU’N DDWYIEITHOG, ond rhaid rhoi’r Gymraeg yn gyntaf ac yn amlycach nag unrhyw iaith arall a ddefnyddir.
ii. Gan mai Cymraeg yw iaith yr Eisteddfod dylai stondinwyr ddisgwyl felly fod cwsmeriaid ac ymwelwyr yn gwneud ymholiadau ac yn archebu trwy gyfrwng y Gymraeg. O’r herwydd dylid sicrhau fod staff sy’n siarad Cymraeg yn bresennol drwy gydol yr amser. Os byddwch angen siaradwr Cymraeg i weithio ar eich stondin yn ystod yr Eisteddfod, bydd modd i chi hysbysebu hynny ar ein gwefan o fis Mai / Mehefin ymlaen.
iii. Disgwylir i’r mwyafrif o’r pamffledi ac ati o fewn y pebyll fod yn y Gymraeg.

Rhaid i bob stondinwr gydymffurfio â’r rheolau hyn.

DS Bydd Swyddfa’r Eisteddfod yn barod i gynorthwyo gyda pharatoi mân gyfieithiadau i’r Gymraeg, ond dylid rhoi digon o rybudd. Gall Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ( 01248 371839 www.cyfieithwyrcymru.org.uk) roddi cyngor ynglŷn â phwy all ymgymryd ag unrhyw dasg fwy am delerau ffafriol.


YSWIRIANT EIDDO AC ATEBOLRWYDD CYHOEDDUS (PUBLIC LIABILITY)

Cyfrifoldeb yr huriwr fydd diogelu unrhyw weithwyr ac aelodau o’r cyhoedd rhag damwain neu berygl o ddamwain, ac i gydymffurfio ag unrhyw reolau neu ganllawiau iechyd a diogelwch statudol.

a. Bydd holl stondinwyr y maes yn gyfrifol am indemnio’r Eisteddfod rhag unrhyw atebolrwydd gan yr Eisteddfod gan gynnwys (ond
heb gyfyngiad) costau, treuliau neu iawndal cyfreithiol yn dilyn:

i. Niwed corfforol gan gynnwys marwolaeth neu afiechyd i unrhyw berson.
ii. Colled neu ddifrod i unrhyw eiddo a ddigwydd ar feysydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru o ganlyniad i unrhyw weithred
uniongyrchol neu anuniongyrchol o eiddo’r stondinwyr.

b. Nid yw’r Eisteddfod a’r/neu’r Swyddogion yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod i eiddo stondinwr nac ychwaith i
gerbydau stondinwyr ddaw ar faes yr Eisteddfod, oni ellir profi fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyfrifol drwy weithred neu
anwaith am y niwed neu'r golled.

Mae’n ofynnol i stondinwyr fod â lleiafswm indemniad o £1,000,000 o yswiriant o leiaf i ateb gofynion Atebolrwydd Cyhoeddus. Cyn y bydd yr Eisteddfod yn caniatau meddiant i’r stondinwr rhaid iddo ddarparu i’r Eisteddfod dystiolaeth ei fod wedi sicrhau yswiriant o’r fath.

Mae cwmni Event Insurance Services yn arbenigo mewn yswiriant i stondinwyr ac arddangoswyr mewn gwyliau tebyg i'r Eisteddfod. Maent yn cynnig yswiriant llawn am gyfnod o 12 diwrnod am bris oddeutu £50.00. Os hoffech rhagor o fanylion a ffurflen gais, cysylltwch â Swyddfa’r Eisteddfod yng Nghaerdydd.


DIFROD

Byddwch yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i’r uned/adeilad (damweiniol neu bwrpasol), ac fe ddylech sicrhau bod eich yswiriant yn ddigonol ar gyfer difrod damweiniol. Dylech hefyd gysylltu gyda’r Swyddog Technegol, os ydych:
• yn bwriadu addasu neu newid y strwythur;
• eisiau glynu unrhyw arwydd/poster i’r strwythur;
• yn ansicr o unrhyw agwedd o addasrwydd y strwythur ar gyfer eich anghenion.


IECHYD A DIOGELWCH

Cynghorir chwi yn gryf i ymgyfarwyddo â'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch cyfredol a all effeithio ar eich gweithgareddau yn yr Eisteddfod.
Mae'r deddfau canlynol o bwys arbennig:

DEDDF IECHYD A DIOGELWCH 1974
RHEOLIADAU RHEOLAETH IECHYD A DIOGELWCH 1999
GORCHYMYN DIWYGIO RHEOLEIDDIO (DIOGELWCH TÂN) 2006

Yn gyfreithiol gofynnir i chwi wneud asesiad o'r peryglon fydd yn eich wynebu chi, eich gweithwyr (gan gynnwys gweithwyr gwirfoddol) neu aelodau'r cyhoedd fel canlyniad i'ch gweithgareddau. Os ydych yn cyflogi 5 neu ragor o bobl (yn cynnwys gweithwyr gwirfoddol), gofynnir i chwi hefyd gofnodi ar bapur unrhyw ddarganfyddiadau arwyddocaol i'r asesiad. Dylid rhoi sylw arbennig os oes unrhyw un o'r staff neu'r cynorthwywyr dan 18 oed neu'n feichiog. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, mae'n bosib y bydd rhaid i chi ddangos prawf o'r asesiad hwn.

Gellir cael gwybodaeth bellach drwy ymweld â safle gwê Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - www.hse.gov.uk ac os ydych angen cyngor neu gymorth, cysylltwch â Swyddog Technegol yr Eisteddfod.


OFFER YMLADD TÂN

Mae’n ofynol i chi rhoi sylw arbennig yn eich asesiad i beryglon sy'n ymwneud â thân. Os yw natur eich gweithgareddau yn gallu achosi tân, er enghraifft drwy ddefnyddio offer trydanol, offer sodro haearn neu nwy LPG ayb, dylid sicrhau fod gennych offer priodol a digonol i ymladd tân o'r fath, a bod rhywun yn bresennol drwy'r amser sy'n gyfarwydd â defnyddio'r offer. Mewn cydweithrediad â gwasanaethau tân Cymru, fe’ch cynghorir yn gryf i gydymffurfio â’r canlynol:

Dylai pob stondin/safle ddarparu offer ymladd tân sydd yn gymwys ac yn addas i maint y stondin/safle, ac i’r defnydd a wneir o’r stondin/safle.

Fe ddylech ystyried diffoddydd tân dwr 6 litr fel y ddarpariaeth gychwynnol, sydd yn addas i uned gyffredin, gan ychwanegu mwy o rai dwr os yw’r stondin/safle yn un mawr, ac ystyried diffoddydd CO2 neu bowdwr sych os yw’ch defnydd o’r stondin/safle yn gwarantu hynny.
Os na fydd gennych yr offer ymladd tân sy'n briodol i'r peryglon, neu fod y peryglon yn annerbyniol o uchel, deil yr Eisteddfod yr hawl i derfynu'r huriaeth.

(Gallwch logi diffoddyddion tân gan yr Eisteddfod – gweler Ffurflen 1)

Mewn achos o dân mewn stondin, dylech ffonio 999 (112 - ffôn symudol) gan ddefnyddio’r ffôn agosaf.
Am fwy o wybodaeth – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

Mae ffonau symudol yn gyffredin iawn ar faes yr Eisteddfod, ond os nad oes modd defnyddio un i gael cymorth, ewch i un o'r adeiladu isod lle mae ffôn neu radio ar gael i ofyn am gymorth: Swyddfa’r Eisteddfod, Swyddfa’r Maes neu’r Ganolfan Groeso wrth y brif fynedfa. Os digwydd eich bod yn agos i safle’r gwasanaethau brys, ewch yno i ofyn am gymorth.


ALCOHOL

Dan ddeddf Trwyddedu Mangre 2003, caniateir alcohol ar faes yr Eisteddfod ond bydd y defnydd a’r gwerthiant ohono yn cael ei reoli’n llym gan yr Eisteddfod;
• dim ond personau sydd â chaniatád yr Eisteddfod fydd â’r hawl i ddosbarthu neu werthu alcohol;
• y safleoedd penodedig a reolir gan yr Eisteddfod i werthu alcohol fydd bwyty Blas a bwyty Bant a la Cart ac un bar symudol ar bob un o’r ddau batio bwyd;
• caniateir rhoi alcohol i westeion mewn derbynfeydd a lawnsiadau er enghraifft, ond bydd angen
rhoi gwybod i’r Eisteddfod pa bryd y bydd hyn yn digwydd. Cwblhewch a dychwelwch y Ffurflen 8 - Alcohol.
• fe fydd ceisiadau i werthu cynnyrch alcoholig megis wisgi a gwirodydd Cymreig i’w hyfed oddi ar y
maes, yn cael sylw unigol gan yr Eisteddfod;
• fe fydd alcohol ar gael yn ystod oriau trwyddedu arferol 11 y bore – 11 yr hwyr.


CASGLU ARIAN

Ni chaniateir casglu arian ar Faes yr Eisteddfod, ond ni wrthwynebir gosod blwch casglu oddi mewn i uned neu stondin. Ni chaniateir ychwaith werthu tocynnau raffl, bathodynnau ac eitemau eraill o gwmpas y maes.
Cyfyngir gwerthiant o’r math yma i’r uned berthnasol. Os torrir y rheol hon, rhoddir un rhybudd ysgrifenedig cyn diddymu’r denantiaeth.


RHYDDID Y MAES

Ni chaniateir i unrhyw berson/mudiad gynnal gweithgareddau (nad ydynt yn weithgareddau swyddogol yr Eisteddfod) yn cynnwys gorymdeithiau a phrotestiadau ar Faes yr Eisteddfod neu unrhyw ran o’r maes a all darfu ar weithgareddau ac awyrgylch yr Eisteddfod, ynghyd â mwynhad person neu bersonau a fydd yn bresennol ynddi. Y mae hyn yn cynnwys unrhyw safle neu safleoedd a osodir iddo/iddynt.
Ni chaniateir neb ychwaith i rwystro gweithgareddau na difrodi eiddo mudiadau eraill a fo’n bresennol ar y Maes. Gwaherddir unrhyw droseddu ar y maes.


TORRI RHEOLAU

Os torrir un o’r rheolau ac/neu amodau hurio a nodir yma, gall yr Eisteddfod derfynu’r cyfryw huriaeth yn ddirybudd ac ar unwaith (heb amharu ar ei hawl i gymryd moddion eraill a fo’n agored iddo). Os digwydd hyn ni ad-delir unrhyw dâl hurio nac unrhyw ran ohono i’r huriwr neu’r huriwr a dorro un o’r rheolau/amodau a nodwyd uchod. Ymhellach, gall yr Eisteddfod wrthod gosod yn y dyfodol uned neu safle i’r huriwr neu’r huriwr a dorrodd un neu ragor o’r Rheolau/Amodau hyn.


CWYNION

Rhaid cyflwyno unrhyw gwyn (yn ysgrifenedig) i’r Trefnydd o fewn saith diwrnod i ddiwedd yr Eisteddfod.


DIDDYMU CAIS

Os diddymir cais, ni ad-delir y blaendal.
Os diddymir cais ar ôl 1 Mehefin 2010 fe fydd yr Eisteddfod yn hawlio pris llawn am y stondin.