Y Maes
GOSOD I FYNY
Dydd Mercher 28 Gorffennaf, dydd Iau 29 Gorffennaf, a dydd Gwener 30 Gorffennaf.
Mae’r Eisteddfod yn agor yn swyddogol gyda chyngerdd ar nos Wener 30 Gorffennaf, felly ni chaniateir i gerbydau symud o gwmpas y maes ar ôl 7.00 o’r gloch y noson honno. Bydd unrhyw gerbyd sydd ar y maes ar ôl hynny yn gorfod aros tan ddiwedd y gyngerdd cyn gadael.
Cyfrifoldeb y stondinwr fydd unrhyw eiddo a gedwir yno, ac fe'ch cynghorir i sicrhau yswiriant digonol am eich eiddo am y cyfnod yn llawn.
CLIRIO DIWEDD YR WYTHNOS
Ar ôl 6.00 o’r gloch nos Sadwrn 7 Awst.
Caniateir cerbydau ar y Maes ar ôl 6.00 o’r gloch nos Sadwrn 7 Awst.
Gofynnir i yrrwyr cerbydau fod yn ofalus ac i fod yn ymwybodol o'r ffaith y bydd nifer fawr o bobl yn dal ar y Maes.
Anogir pawb i glirio eu stondinau / safleoedd / adeiladau ar y nos Sadwrn.
Nid ydym yn argymell cadw unrhyw eiddo yn y stondin ar ôl nos Sadwrn.
Os nad yw clirio ar y nos Sadwrn yn bosib, dylid cysylltu â’r Swyddog Technegol i wneud trefniadau (07812 980322).
Rhaid i bawb wagio eu stondin yn llwyr o sbwriel ddiwedd yr Eisteddfod, trwy ei waredu i’r sgipiau neu i’r biniau ailgylchu perthnasol.
SYLWER – Nid yw’r Eisteddfod yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw eiddo sydd yn cael ei ddwyn, neu ei golli.
ORIAU AGOR STONDINAU
Sadwrn 31 Gorffennaf 9.30 – 6.00 o’r gloch o leiaf
Sul 1 Awst 10.30 – 6.00 o’r gloch o leiaf
Llun 2 Awst – Sadwrn 7 Awst 9.30 – 6.00 o’r gloch o leiaf
Disgwylir i'r holl stondinau fod ar agor o leiaf rhwng 9.30 – 6.00 o'r gloch bob dydd ar wahân i ddydd Sul, 1 Awst, pryd yr anogir stondinwyr i agor ar ôl i'r Gwasanaeth a gynhelir yn y Pafiliwn orffen tua 10.30. Gan y bydd pobl yn crwydro'r Maes bob dydd hyd nes bydd y cyngherddau yn y Pafiliwn yn dechrau am 8.00 o'r gloch, anogir stondinwyr i ystyried bod ar agor yn hwyrach na'r amser penodedig.
CERBYDAU
Gofynnir i bob stondinwr sicrhau fod cyn lleied â phosib o geir angen mynediad i'r Maes drwy lenwi ceir yn hytrach na chludo hanner llwyth.
i. Gosod i fyny cyn yr Eisteddfod - Dim ond cerbydau sydd yn amlwg yn cario deunydd neu offer trwm a ganiateir ar y maes. Gofynnir i bawb arall barcio yn y maes parcio. Ni chaniateir cerbydau ar y Maes ar ôl 7.00 o’r gloch nos Wener, 30 Gorffennaf gan fod cyngerdd yn y Pafiliwn.
ii. Ar gyfer wythnos yr Eisteddfod, rhoddir UN tocyn cerbyd i bob stondin ac adeilad sy'n caniatau mynediad i’r Maes (a gadael) cyn 9.30 am a rhwng 6.00 pm a 7.00 pm. Rhaid talu blaendal o £30.00 i sicrhau mynediad, ac fe ad-delir y swm hwn ar yr amod bod y cerbyd wedi gadael y Maes o fewn yr amser penodedig. Gwaherddir unrhyw gerbyd sy’n camddefnyddio’r fraint rhag dod ar y Maes weddill yr wythnos. Rhaid i bob person yn y cerbyd gael Tocyn Eisteddfod i sicrhau mynediad i'r Maes.
iii. Diwedd yr wythnos. Ni chaniateir mynediad i gerbydau ddydd Sadwrn, 7 Awst tan 6.00 o’r gloch.
Gofynnir hefyd i yrrwyr fod yn ofalus ac yn ymwybodol o'r ffaith y bydd nifer fawr o bobl yn dal ar y Maes.
Ni chaniateir gweithio ar y Maes na symud cerbydau o gwmpas y Maes unrhyw noson ar ôl 7.00 o'r gloch yr hwyr oherwydd y cyngherddau a gynhelir yn y pafiliwn.
Ni chaniateir parcio cerbyd unrhyw le ar y Maes yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Gweithredir system ‘clampio’ (yn unol â’r Ddeddf Diwydiant Gwarchod Preifat 2001 - Private Security Industry Act 2001) a bydd cost o £80 i ryddhau’r cerbyd.
PARCIO
Fe fydd maes parcio arbennig ar gyfer stondinwyr yn ymyl y Maes.
Ni chaniateir cysgu dros nos yn y maes parcio hwn.
TOCYNNAU
Rhoddir nifer penodedig o docynnau rhad ac ddim i stondinwyr fel rhan o gost y stondin.
Argreffir tocynnau arbennig at ddefnydd stondinwyr ac nid oes modd eu cyfnewid am unrhyw docynarall. Mae’r tocynnau i gyd wedi eu dyddio a gan fod ‘barcode’ arnynt, mae’n rhaid dangos y tocyn cywir i gael mynediad i’r Maes.
Tocynnau
(a) Rhoddir tocynnau mynediad rhad ac am ddim fel a ganlyn:
i. Uned sengl neu safle 3m x 6m (10’ x 20’) - 3 Tocyn Eisteddfod bob dydd.
ii Dwy uned neu safle 6m x 6m (20’ x 20’) - 6 Tocyn Eisteddfod bob dydd.
iii. Unedau ychwanegol neu safleoedd ychwanegol 3m x 6m (10’ x 20’) - 1 Tocyn Eisteddfod yr uned bob dydd.
iv. Uchafswm tocynnau rhad - 12 Tocyn Eisteddfod. Gellir archebu tocynnau ychwanegol drwy anfon cais i’r swyddfa ar
Ffurflen 5.
(b) Dim ond un person all ddefnyddio tocyn mynediad ar gyfer diwrnod penodol.
(c) Ni chaniateir mynediad i’r Maes heb docyn rhwng 31 Gorffennaf - 7 Awst 2010.
Tocynnau – adeiladau cwmniau unigol a safleoedd yn unig
(a) Rhoddir tocynnau mynediad rhad ac am ddim fel a ganlyn:
i. Safle hyd at 18m2 – 3 tocyn Eisteddfod bob dydd
ii. Safle rhwng18 m2 a 36 m2 – 6 tocyn Eisteddfod bob dydd
iii. I adeiladau / safleoedd sy’n fwy na 36 m2 - rhoddir 6 tocyn Eisteddfod bob dydd am 36 m2 cyntaf
Pob 18 m2 ar ôl hynny yn derbyn 1 tocyn Eisteddfod bob dydd.
e.e. Bydd adeilad Chalet 8m x 8m sef 64 m2 yn derbyn 8 tocyn Eisteddfod.
(b) Dim ond un person all ddefnyddio tocyn mynediad ar gyfer diwrnod penodol.
(c) Ni chaniateir mynediad i’r Maes heb docyn rhwng 31 Gorffennaf - 7 Awst 2010.
Tocynnau – adeiladau sy’n cartrefu nifer o sefydliadau
(a) Rhoddir tocynnau mynediad rhad ac am ddim fel a ganlyn:
i. dilyn (a) uchod neu
ii. 2 docyn Eisteddfod i bob sefydliad yn yr adeilad – pa bynnag un sydd uchaf.
(b) Dim ond un person all ddefnyddio tocyn mynediad ar gyfer diwrnod penodol.
(c) Ni chaniateir mynediad i’r Maes heb docyn rhwng 31 Gorffennaf - 7 Awst 2010.



