Wythnos yr Eisteddfod
GWESTEION / PERFFORMWYR I’CH STONDIN
Os ydych yn bwriadu gwahodd unigolion i ymweld â’ch stondin neu artistiaid i berfformio oddi fewn i’ch stondin, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod ganddynt y tocynnau mynediad ar gyfer y diwrnod o dan sylw. Ni fydd yr Eisteddfod yn caniatáu mynediad i wahoddedigion stondinau oni bai fod ganddynt docyn mynediad dilys.
Yn yr un modd, ni fyddwn yn caniatáu mynediad i gerbyd unrhyw berfformwyr ag offer. Os oes rhaid dod â cherbyd, yna rhaid gwneud trefniadau ymlaen llaw trwy gysylltu â swyddfa’r Eisteddfod. Yn ogystal â hyn, bydd rhaid i bob person yn y cerbyd gael tocyn mynediad i'r Maes hefyd - ni chaniateir mynediad heb y tocynnau hyn.
Fe fydd gan yr Eisteddfod yr hawl i wrthod mynediad i’r Maes i bob cerbyd a gwesteion/ ymwelwyr i’ch stondin, heb y tocynnau priodol.
COFIWCH - Mae'n rhaid i bob gweithgaredd o fewn y stondin fod yn yr iaith Gymraeg.
POST A PHARSELI
Rhaid i bob parsel neu lythyr fod wedi ei gyfeirio’n glir yn enw’r stondin a rhif y stondin. Os na chedwir yr amod hwn gall dryswch mawr ddilyn, a bydd nwyddau a gyfeirir at stondinwyr mewn perygl o oedi mawr neu o beidio â chyrraedd pen y daith. Gofynnir i’r stondinwyr oll dynnu sylw eu cyflenwyr at y rheol hon.
Fe fydd pob parsel yn cael ei adael yn y Swyddfa Diogelwch sydd ger mynedfa'r cerbydau i'w gasglu gan y stondinwr. Ni fydd cwmnïau cludo yn cael caniatad i fynd at unrhyw uned.
STORIO NWYDDAU
Yn ogystal â chadw post a pharseli yn y Swyddfa Diogelwch, mae'n bosib storio nwyddau yno nes y bydd eu hangen. Er mwyn hwylustod, ac os bydd gwir angen, gellir trefnu fod cerbyd ar gael i fynd â'r nwyddau o'r man storio neu o'r maes parcio at y stondin unrhyw adeg o’r dydd (ond nid ar y prynhawn Sadwrn olaf). Dylid mynd at Swyddfa’r Maes i drefnu hyn.
Ni chymerir unrhyw gyfrifoldeb gan yr Eisteddfod am golled neu ddifrod i unrhyw eiddo neu nwyddau sy'n cael eu cadw yn y man storio.
GWERTHU NWYDDAU
NI CHANIATEIR GWERTHU NWYDDAU AR HYD MAES YR EISTEDDFOD AC EITHRIO PAPURAU NEWYDD, CYFNODOLION CYMRAEG A CHYHOEDDIADAU SWYDDOGOL YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.
Pan fo’n bosib, gofynir i stondinwyr ddefnyddio a gwerthu nwyddau Masnach Deg.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Fforwm Masnach Deg Cymru (07766 015 664, e-bost mark@masnachdegcymru.com).
Ni chaniateir rhannu nwyddau yn rhad ac am ddim heb drwydded swyddogol gan awdurdodau’r Eisteddfod. Y mae rhannu rhai nwyddau sy’n hyrwyddo mudiad neu sefydliad yn uniongyrchol megis balwns, bathodynnau, beiros ayb yn dderbyniol.
Ni chaniateir defnyddio’r gofod y tu allan i stondin i werthu neu arddangos os yw’n amharu ar stondinwyr eraill ac ar lif naturiol y cerddwyr.
Ni chaniateir gwerthu bwydydd na diodydd yn yr uned.
Lle bo te ac/neu goffi yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim, fe’ch annogir i ddefnyddio deunydd Masnach Deg.
Mae gan yr Eisteddfod yr hawl i wrthod unrhyw gais gan stondinwr sy'n gwerthu nwyddau nad sy'n cydfynd ag amcanion yr Eisteddfod.
HARDDU
Rhaid i bob safle gael ei harddu’n ddeniadol ac o safon i foddhau gofynion yr Eisteddfod. Bydd gan yr Eisteddfod yr hawl i ofyn am newidiadau.
CYSGU DROS NOS YN Y STONDIN
Os byddwch yn penderfynu cysgu dros nos yn y stondin neu’n cyflogi cwmni diogelwch proffesiynol i fod yn y stondin dros nos, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i Swyddfa’r Eisteddfod.
DIOGELU SAFLEOEDD AGORED
Cyfrifoldeb y stondinwr yn unig yw sicrhau fod y safleoedd yn ddiogel ar gyfer y cyhoedd, yn cydymffurfio â rheolau adeiladu, a deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch (gall hyn olygu cyflwyno gwybodaeth a chyfrifiadau technegol i swyddogion y cyngor lleol).
ARCHWILIO
Trefnir i Swyddogion yr Eisteddfod archwilio pob stondin ar y diwrnod agoriadol ac yn achlysurol wedi hynny er mwyn sicrhau cydymffurfiad â rheolau sy’n gynwysiedig yn y llyfryn hwn. Bydd gan y Swyddogion hynny, ar ran yr Eisteddfod, hawl i ofyn am newidiadau a rhaid i stondinwyr gydymffurfio â’r newidiadau a awgrymir.
CYSTADLEUAETH YR ARDDANGOSFA ORAU AR FAES YR EISTEDDFOD
Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i fudiadau a chymdeithasau gwirfoddol yn unig.
Dylai’r arddangosfa fod yn gyfanwaith ar thema sy’n berthnasol i’r sefydliad neu’r gymdeithas sy’n arddangos, a dyfernir marciau am gyfanwaith y cynllun a gwreiddioldeb yr arddangosfa yn ogystal ag ansawdd a gwneuthuriad y nwyddau a’r cynnyrch. Bydd y beirniaid yn ystyried cyfleusterau i’r anabl fel un o’r meini prawf wrth feirniadu.
Rhoddir gwobrau Sefydliad y Merched i’r buddugol ac i’r ail, i’w dal am flwyddyn, ac fe’i cyflwynir iddynt gan Gadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad Y Merched Cymru yn dilyn cyhoeddiad o’r llwyfan.
Dylai’r rhai sy’n dymuno cystadlu roi dic yn y blwch priodol ar Ffurflen 1 tra’n gwneud cais am stondin ar y maes.



