Masnach Deg
Pan fo’n bosib, gofynir i stondinwyr ddefnyddio a gwerthu nwyddau Masnach Deg.
Er mwyn cydnabod a chefnogi statws Cymru fel cenedl Masnach Deg, y mae’r Eisteddfod wedi cyflwyno polisi Masnach Deg newydd. Rhaid i arlwywyr yn awr ddefnyddio tê, coffi a siwgr Masnach Deg ac rydym felly yn gofyn i stondinwyr wneud yr un peth.
Pam defnyddio Masnach Deg?
Mae Masnach Deg yn gwarantu:
- pris teg a sefydlog i gynhyrchwyr tan anfantais mewn gwledydd sy’n datblygu
- cyflog teg ac amodau gweithio teg a diogel
- dim llafur plant
- hawliau ar gyfer merched
- gwarchod yr amgylchedd
- perthynas fasnachu hirdymor er mwyn iddynt allu cynllunio at y dyfodol
- ‘premiwm cymdeithasol’ – arian ychwanegol i dalu am brosiectau cymunedol megis ysgolion a gofal iechyd.
Pam fod defnyddio cynnyrch Masnach Deg o fantais i’ch busnes ?
- Mae pobl yn disgwyl gweld cynnyrch Masnach Deg erbyn hyn.
- Mae’n dangos eich bod yn cymryd cyfrifoldeb cymdeithasol
- Mae Cymru yn ymgeisio i fod y wlad Fasnach Deg gyntaf yn y byd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Fforwm Masnach Deg Cymru (07766 015 664, e-bost mark@masnachdegcymru.com).
Am restr o gyflenwyr nwyddau Masnach Deg ewch i www.fairtradewales.com



