Ffoli ar Fflagiau!
Cais am fflagiau i groesawu Eisteddfod 2010
Beth am ymuno gyda ni a ffoli ar fflagiau i ddathlu ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol ag ardal Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd? Dyma’n syml yw neges yr Eisteddfod Genedlaethol, wrth lansio’r ymgyrch ddiweddaraf i hyrwyddo’r ŵyl eleni. Y bwriad yw troi’r ardal yn fôr o groeso wrth i ni annog pawb yn lleol – yn fusnesau a thrigolion – i ffoli ar fflagiau.
Mae’r fflagiau wedi’u cynhyrchu gyda chefnogaeth hael Y Cymoedd Calon ac Enaid Cymru, a rydym yn y broses o’u gosod yn lleol ar y strydoedd. Nawr, rydym yn gofyn i chi, ymuno â ni a rhoi posteri yn eich ffenestri, fflagiau yn eich gerddi, arddangos ein llenyddiaeth yn eich siopau a dangos i Gymru gyfan bod croeso arbennig iddyn nhw ac i’r Eisteddfod Genedlaethol yn ardal Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.
Anfonwch luniau o’ch siop neu’ch cartref atom a byddwn yn cynnal cystadlaethau arbennig – gyda gwborau ar gyfer y rheini sy’n dangos eu doniau arddangos i ni. Bydd Sefydliad y Merched yn cyflwyno tlws i’r busnes sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf yn lleol, a byddwn yn rhoi’r lluniau gorau ar ein gwefan. A dewch ‘da ni i ffoli ar fflagiau!
Os ydych yn cysylltu ar ran sefydliad sydd angen mwy na 3 pecyn o fflagiau, anfonwch ebost at gwyb@eisteddfod.org.uk gyda'ch cais.
Mae'r deunyddiau i gyd ar gael yn rhad ac am ddim.



