Ffurflen gofrestru cyfeirlyfr busnes arlein 2010

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn creu cyfeirlyfr arlein ar gyfer busnesau lleol yn nalgylch yr Eisteddfod, sef Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd. Bydd yn ymddangos ar wefan yr Eisteddfod ac yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Bydd tua 160,000 o ymwelwyr yn dod i’r ardal o 31 Gorffennaf – 7 Awst eleni ar gyfer un o wyliau mawr y byd a gynhelir yn Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy.

Bwriad y cyfeirlyfr yw rhoi syniad i’r ymwelwyr o’r adnoddau a’r busnesau sydd ar gael er mwyn eu helpu i fwynhau’r Eisteddfod a’r ardal leol. Dim ond busnesau sy'n cynnig gwasanaeth sy'n berthnasol yn ystod wythnos yr Eisteddfod fydd yn cael eu cynnwys yn y cyfeirlyfr hwn.

Llawlyfr optio mewn fydd hwn, felly dim ond gwybodaeth gan fusnesau sy’n cysylltu gyda ni fydd yn cael ei gynnwys yn y cyfeirlyfr.

Cofiwch lenwi pob un o’r blychau er mwyn sicrhau ein bod yn derbyn manylion llawn, ac felly’n gallu cynnwys popeth arlein. Ni fyddwn yn cyhoeddi eich cyfeiriad ebost, ac os nad oes gennych gyfeiriad ebost, ysgrifennwch ‘dim ebost’ yn y blwch priodol.

Byddwn yn dosbarthu pecynnau i fusnesau ardal Blaenau Gwent. Os hoffech chi dderbyn pecyn a rydych yn rhedeg busnes yn ardal Blaenau’r Cymoedd, gadewch i ni wybod drwy anfon ebost atom – gwyb@eisteddfod.org.uk.

 

Rhaid llenwi pob ardal gyda *

Manylion

Math o fusnes*




















Eich manylion chi

Lle glywsoch chi am y cyfeirlyfr arlein*









Ydych chi eisiau derbyn rhagor o wybodaeth gennym?*

 
Diolch am gefnogi Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd.