Cyfleoedd gwaith tymhorol
Mae nifer fawr o stondinwyr yn chwilio am staff yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Eleni, gall stondinwyr hyrwyddo unrhyw gyfleoedd sydd ar gael ar y dudalen hon drwy lenwi'r ffurflen gofrestru yma.
Defnyddiwch y dudalen hon, os gwelwch yn dda, i gadw golwg am unrhyw gyfleoedd gwaith. Peidiwch â chysylltu'n uniongyrchol gyda'r swyddfa'n chwilio am waith ar hyn o bryd, os gwelwch yn dda, gan y byddwn yn hysbysebu pob cyfle ar y dudalen hon.
Byddwn yn ychwanegu'r wybodaethar y dudalen hon fel mae'n ein cyrraedd ni; byddwn yn ei rannu i ddwy adran - stondinwyr ac arlwywyr, ond ni fydd modd i ni gynnwys popeth yn nhrefn yr wyddor.
Ni fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhan o'r broses benodi, a chyfrifoldeb y cwmnïau a restrir isod yw cysylltu gydag ymgeiswyr.
ARLWYWYR
CAPITAL CUISINE: swyddi staff arlwyo
Mae Capital Cuisine, rheolwyr bwyty'r Maes, Pl@iad (Bwyty Blas y gorffennol) a'r Ty Bwyta'n chwilio am y staff canlynol i weithio yn yr Eisteddfod eleni. Profiad yn angenrheidiol.
Goruchwyliwyr Bwyty: cyflog o £6.00 yr awr
Gweinwyr a gweinesau, cogyddion, cynorthwy-wyr cegin, porthorion cegin: cyflog o £5.85 yr awr (£4.50 dan 18 oed)
Rhaid i'r gweinwyr a'r gweinesau fod yn siarad Cymraeg.
Darperir ffurfwisg a phrydau pan yn gweithio.
Dyddiadau'r contract: 30 Gorffennaf - 7 Awst 2010
Cysylltwch â Marje Smart ar 07733 255 119 neu ebostiwch marjesmart@yahoo.co.uk
Lawrlwythwch y ffurflenni angenrheidiol o'r panel ar ochr dde'r dudalen a chwblhewch bopeth cyn eu hanfon.
ASSIETTE CATERING - Cogydd
Mae Assiette Catering yn chwilio am berson brwdfrydig, hwyliog a chyfeillgar sydd â phrofiad hyd at lefel Commi, a Thystysgrif Glanweithdra Bwyd Sylfaenol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu coginio a siarad Cymraeg.
Contract: 31 Gorffennaf - 7 Awst
Cyflog - £7.50 yr awr
Cyswllt: Ian Willis - 0845 430 3034
Dyddiad cau: 25 Gorffennaf
STONDINWYR
TENOVUS - staff stondin
Mae Tenovus yn chwilio am 16 o wirfoddolwyr i weithio ar y stondin yn ystod yr wythnos. Byddwch yn frwdfrydig a chyfeillgar ac yn awyddus i helpu Tenovus.
Swydd wirfoddol yw hon
Cyswllt: Kerry Marland ar 029 2076 8850 / kerry.marland@tenovus.org.uk
TENOVUS - ymgynghorwyr prawf iechyd
Rydym yn chwilio am 3 gwirfoddolwr i weithio fel ymgynghorwyr prawf iechyd am dridiau'n ystod yr wythnos, yn cynnig canllaw i bobl sy'n cymryd y prawf. Darperir hyfforddiant.
Swydd wirfoddol yw hon
Cyswllt: Kerry Marland ar 029 2076 8850 / kerry.marland@tenovus.org.uk
TOUCH OF SILK - gwerthwr/aig
Mae Touch of Silk yn chwilio am werthwr/aig i weithio ar eu stondin. Does dim rhaid cael profiad blaenorol ond mae'n rhaid i chi fod yn gyfathrebwr ardderchog.
Gwaith ar gael: 31 Gorffennaf - 7 Awst
Cyflog - £5 yr awr
Dyddiad cau: 25 Gorffennaf
Cyswllt: Stuart Leigh - 07973 637 458



