Sut i gyrraedd y Maes
Yr hen weithfeydd dur ar gyrion tref Glyn Ebwy yw lleoliad Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd eleni, ac mae’n safle arbennig o gyfleus ar gyfer ymwelwyr sy’n dod i Lyn Ebwy o bob cyfeiriad. Mae’n agos iawn at Heol Blaenau'r Cymoedd, yr A465, ac yn hawdd i’w gyrraedd o’r M4 a’r A470, a hefyd yn gyfleus ar gyfer unrhyw un sy’n dod i’r Eisteddfod gan ddefnyddio’r A49.
Y ffordd fwyaf hawdd i gyrraedd yr Eisteddfod yw dilyn yr arwyddion a defnyddio’r system bws gwennol. Mae parcio ar gyfer ymwelwyr anabl ar gael ym mhob maes parcio, ac mae gan rai bysiau loriau isel. Bydd y bysiau yn dod â phawb i’r arosfan ger y brif fynedfa.
Bydd system draffig arbennig yn weithredol dros gyfnod yr Eisteddfod, a bydd hon yn gweithio fel a ganlyn:
Traffig o’r gogledd orllewin, canolbarth a gorllewin Cymru, ynghyd â thraffig o Gaerdydd – bydd ceir yn dilyn yr A465 o Bentrebach, Merthyr a Dowlais, tan gylchfan Stad Ddiwydiannol Rassau, lle bydd maes parcio wedi’i ddarparu. Bydd bysiau gwennol yn teithio’n ôl a blaen i’r Maes drwy gydol y dydd a chyda’r nos.
Traffig o’r dwyrain – bydd ceir yn gadael yr A465 ym Mrynmawr ac yn teithio ar hyd yr A467 i gylchfan Aberbeeg o gyfeiriad Y Fenni ac yn troi i’r dde ar yr A4046, Yna bydd arwyddion yn eich arwain i faes parcio ym mhentref Cwm. Bydd bysiau gwennol yn teithio’n ôl a blaen i’r Maes drwy gydol y dydd a chyda’r nos.
Traffig o’r de (gan gynnwys Caerffili a Chasnewydd) – bydd traffig yn cael ei arwain o gylchfan Aberbeeg (A467 / A4046) tuag at Lyn Ebwy. Yna bydd arwyddion yn eich arwain i faes parcio ym mhentref Cwm. Bydd bysiau gwennol yn teithio’n ôl a blaen i’r Maes drwy gydol y dydd a chyda’r nos.
Mae’r brif fynedfa i fysus a cherddwyr oddi ar yr A4046 (mynedfa’r ysbyty newydd). Nid oes modd i geir ddefnyddio’r fynedfa hon.
Yn ogystal, mae mynedfa arall ar gyfer cerddwyr yng ngogledd y safle oddi ar Steelworks Road. Eto, ni fydd modd i gerbydau preifat ddefnyddio’r fynedfa hon.
Bydd bysiau gwennol yn rhedeg o’r ddau faes parcio i’r brif fynedfa drwy gydol y dydd a chyda’r nos, o 07.00 tan ar ôl i’r cyngerdd orffen yn y Pafiliwn.
O 08.00 fore Mawrth 3 Awst bydd bysiau gwennol ychwanegol yn gweithredu o’r maes parcio sydd islaw yr Eisteddfod a sydd yn cael eu hadnabod fel yr Hotmill neu y maes parcio isaf. Bydd y rhain yn rhedeg o’r maes parcio i’r Ganolfan Groeso / Brif Fynedfa ac yn gollwng pobl ym man gollwng arferol y bysiau. Bydd y rhain yn parhau drwy’r dydd hyd ddechrau’r cyngerdd, gan gynnwys nos Fercher a nos Wener ac yn dod i ben tua 20.30.
Ar ol 20.30 bydd y ddau fws yn cael eu parcio wrth ochr drws 5 y Pafiliwn ar gyfer cyrchu ymwelwyr yn ol o’r Pafiliwn i’r maes parcio yn yr Hotmill ar ddiwedd y cyngerdd. Gobeithio y bydd hyn yn gymorth i’n hymwelwyr wrth iddyn nhw gyrraedd y Maes.
Mae parcio rhad ac am ddim hefyd ar gael yn nhref Glyn Ebwy.
Mae Arriva Trains Wales yn gweithredu gwasanaeth o Gaerdydd i Lyn Ebwy bob awr, gan gychwyn o Gaerdydd am 35 munud wedi’r awr a chyrraedd am 31 munud wedi’r awr. Bydd y trenau’n ôl i Gaerdydd yn gadael Glyn Ebwy am 40 munud wedi’r awr gan gyrraedd am 37 munud wedi’r awr. Bydd bysiau gwennol yn rhedeg o’r orsaf i’r Maes yn rheolaidd.
Mae gwasanaeth bws X4 yn gadael gorsaf fysiau Caerdydd bob hanner awr, am 5 munud wedi’r awr a 35 munud wedi’r awr. Mae’r daith i Lyn Ebwy’n cymryd awr a hanner. Mae bysiau’n gadael Glyn Ebwy ar yr awr ac am hanner awr wedi’r awr i ddychwelyd i Gaerdydd. Am ragor o fanylion ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/



