Gyda phob dyddiad cau wedi pasio ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, mae’r gwaith o roi amserau’r profion ac amserau’r cystadlaethau ar y llwyfan wedi’i wneud.

Rydym wedi cynnwys copi hawdd i’w argraffu o’r amserau mewn ffeil ar ochr dde y dudalen hon.

Mae’n rhaid i ni dderbyn unrhyw gopïau rydych am eu defnyddio erbyn 1 Gorffennaf fan bellaf, er mwyn i ni gael anfon popeth at y beirniaid. Byddem yn gwerthfawrogi’ch cydweithrediad, ac yn ddiolchgar pe gellid anfon copïau atom cyn gynted â phosibl.

Cynhelir y profion yn y lleoliadau canlynol –

  • Capel Libanus, Heol Libanus, Glyn Ebwy NP23 6EJ
  • Capel West End, Ffordd Tredegar, Glyn Ebwy NP23 6NS
  • Eglwys Gatholig, Ffordd Tredegar, Glyn Ebwy NP23 6JQ

Byddwn yn rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol ar gyfer cystadleuwyr ar y dudalen hon, felly cofiwch daro golwg ar y wefan cyn ffonio’r swyddfa.