Cystadleuaeth Golff
Mae eleni’n flwyddyn bwysig i gefnogwyr yr Eisteddfod sy’n mwynhau rownd o golff. Mae cystadleuaeth golff yr Eisteddfod yn dathlu’i phen blwydd yn bump ar hugain eleni, a bydd criw o olffwyr yn dod at ei gilydd unwaith eto i gymryd rhan yn y gystadleuaeth a gynhelir yng Nghlwb Golff Dwyrain Mynwy eleni.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth am y tro cyntaf yn 1985, pan oedd yr Eisteddfod yn Y Rhyl, a thros y chwarter canrif ganlynol, mae cefnogwyr wedi cael chwarae ar rai o gyrsiau gorau Cymru, gyda’r tywydd yn fwy caredig rai blynyddoedd na’i gilydd! Ond, law neu hindda, mae’r criw yn dal i ddod ynghyd i gystadlu am y tlws hardd yn flynyddol.
Eleni, cawn fwynhau lletygarwch y cwrs uchaf ym Mhrydain – gyda’r 14eg twll dros 1500 troedfedd uwchlaw’r môr, gyda golygfeydd godidog o Fynwy, Powys a’r Cymoedd i’w gweld yn glir oddi ar y cwrs, a leolir yn agos at bentref Nantyglo.
Datblygwyd y cwrs dros ganrif yn ôl, ac fe’i agorwyd yn 1906. Dros y blynyddoedd, gwnaethpwyd gwelliannau i’r cwrs ac i’r adnoddau, ac erbyn heddiw, mae’r cwrs yn un o rai mwyaf poblogaidd Cymru, a’r clwb yn gyfeillgar ac yn groesawgar. Felly, beth am gymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni? Pwy a ŵyr, efallai mai chi fydd yn codi’r Tlws hardd pan y caiff ei ennill am y pumed tro ar hugain eleni.
Cynhelir y gystadleuaeth ddydd Mercher 4 Awst. Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Ysgrifennydd y Clwb ar 01495 310 233, ac edrychwn ymlaen i’ch gweld ar y cwrs ar y diwrnod!



