Un o’r pafiliynau mwyaf poblogaidd ar Faes yr Eisteddfod bob blwyddyn yw’r Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a chyda chymaint o weithgareddau’n digwydd yno bob dydd, mae’n ddigon hawdd deall pam fod cynifer o blant a phobl ifanc yn rhuthro yno wrth gyrraedd y Maes ac yn aros yno am oriau lawer!

Gwyddoniaeth 04

Eleni, mae’r Pafiliwn yn orlawn gyda gweithgareddau o bob math ar gyfer plant o bob oed – gyda sioeau o bob math ar gyfer y teulu cyfan. Unwaith eto, bydd digonedd o sleim, ffrwydradau a llond lle o hwyl wrth i Dr Robyn a’i sioe gemeg, a gefnogir gan Western Power ac Ysgol Gemeg Prifysgol Bangor, ddiddanu’r dyrfa! Eleni hefyd, fe fydd na dipyn o gwstard wrth i ni gynhyrchu peli bownsio allan o gwstard – llanast go iawn!

Dewch i weld tren stem go iawn yn mynd lan a lawr y trac y tu ôl i’r pafiliwn gwyddoniaeth a thechnoleg. Cyfle i glywed sŵn yr injan a gweld y stem yn codi – a chlywed y chwiban yn chwythu! Cewch air gyda’r gyrrwr a dyfalu faint o ddŵr sydd ei angen i lenwi’r injan, a lond lle o ffeithiau diddorol eraill am y dren o Bont- y Pwl a Blaenafon, a gefnogir gan Gyngor Torfaen.

Gwyddoniaeth 01

Y brif arddangosfa eleni fydd arddangosfa arbennig ar beirianneg meinweol a noddir gan EPSRC, CITER, Penn a Phrifsgol Caerdydd, a sy’n cynnwys gweithgareddau sy’n ymdrin â’r mathau o dechnoleg mae Gwyddonwyr yn ei ddefnyddioi greu meinwe newydd fel ffurf arloesol i drin nifer o anghenion meddygol. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys model rhyngweithiol sy’n amlygu rhannau o’r corff lle gall peirianneg meinweol ei atgyweirio, gem llawdriniaeth yn erbyn y cloc, gweithgareddau bôn-gelloedd, gweithdy cynhyrchu tabledi, rasus cynrhon a gwybodaeth am beirianneg meinweol meicro – digonedd o wybodaeth ar gyfer unrhyw un am gael gwybod mwy am y maes hynod hwn.

Bydd gweithdy robotiaid, sef cyfle i gynllunio, adeiladu a rhaglennu robot a all gwblhau tasg arbennig, a bydd cyfle hefyd i arsylwi’r haul fel rhan o weithgareddau’r gofod, a gefnogir gan STFC a Phrifysgol Morgannwg.
Bydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru safle’n y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg hefyd, a bydd hwn yn gyfle i gael gwybod mwy am yr angen i ni leihau’r gwastraff rydan ni’n ei anfon i safleoedd tirlenwi yng Nghymru.

Gwyddoniaeth 02

Meddai Elfed Roberts, "Mae’r Pafiliwn Gwyddoniaeth wedi dod yn ffefryn mawr ar y Maes ac mae’n gyfle i’n hymwelwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, sy’n wahanol iawn i’r syniad traddodiadol o’r hyn a geir yn yr Eisteddfod. Pwy fyddai’n credu bod cyfle i wylio sioe o arbrofion cemegol a chymryd rhan mewn llond lle o arbrofion, wrth glywed corau cerdd dant yn cystadlu yn y cefndir?

“Mae hyn yn rhan o apêl yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n gartref naturiol i’r cwmpas eang o weithgareddau y gellir eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac unwaith eto eleni, rydym yn dra diolchgar i bwyllgor lleol Gwyddoniaeth a Thechnoleg am roi rhaglen mor amrywiol at ei gilydd i ddiddanu ymwelwyr â’r Eisteddfod.”

Gweithgareddau'n y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dydd Sadwrn 31 Gorffennaf 

11.30 Sioe Synnwyr

13.00 Sioe Gemeg

14.00 Sioe Synnwyr

14.30 Kariad y Clown

15.00 Darlith Sefydliad y Peiriannwyr Sifil

15.30 Sioe Gemeg

Dydd Sul 1 Awst

11.30 Sioe Synnwyr

12.00 Sgiliau Syrcas

13.00 Sioe Gemeg

14.00 Sioe Synnwyr

14.30 Sgiliau Syrcas

15.00 Darlith Sefydliad y Peiriannwyr Sifil

15.30 Sioe Gemeg

16.00 Sgiliau Syrcas

Dydd Llun 2 Awst

11.30 Sioe Synnwyr

12.00 Agoriad swyddogol

12.00 Sgiliau Syrcas

13.00 Sioe Gemeg

14.00 Sioe Synnwyr

14.30 Sgiliau Syrcas

15.00 Darlith EPRSC – Cyflwyniad i’r brif arddangosfa

15.30 Sioe Gemeg

16.00 Kariad y Clown

Dydd Mawrth 3 Awst

11.00 Cael Wil Bach i’w Wely

11.30 Ffiseg ar y Maes

12.00 Ffiseg ar y Maes

12.30 Cael Wil i’w Wely

13.00 Sioe Gemeg

14.00 Taclo’r Tipwyr

14.30 Sgiliau Syrcas

15.00 Darlith y Dydd

15.30 Sioe Gemeg

16.00 Sgiliau Syrcas

Dydd Mercher 4 Awst

11.00 Cael Wil Bach i’w Wely

11.30 Sioe Synnwyr

12.00 Kariad y Clown

12.30 Cael Wil i’w Wely

13.00 Sioe Gemeg

14.00 Taclo’r Tipwyr

14.30 Kariad y Clown

15.00 Darlith y Dydd

15.30 Sioe Gemeg

Dydd Iau 5 Awst

11.00 Cael Wil Bach i’w Wely

11.30 Sioe Synnwyr

12.00 Cyflwyno’r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn Cymdeithasau 2

12.00 Kariad y Clown

12.30 Cael Wil i’w Wely

13.00 Y Ddarlith Wyddonol yn Cymdeithasau 2

13.00 Sioe Gemeg

14.00 Taclo’r Tipwyr 

15.30 Sioe Gemeg

Dydd Gwener 6 Awst

11.00 Cael Wil Bach i’w Wely

11.30 Sioe Synnwyr

12.30 Cael Wil i’w Wely

13.00 Sioe Gemeg

14.00 Sioe Synnwyr

14.30 Kariad y Clown

15.00 Darlith Cymdeithas Edward Llwyd

15.30 Sioe Gemeg

Dydd Sadwrn 7 Awst

11.00 Cael Wil Bach i’w Wely

11.30 Sioe Synnwyr

12.30 Cael Wil i’w Wely 

13.00 Sioe Gemeg

14.00 Sioe Synnwyr

15.30 Sioe Gemeg

Rhaglen

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl weithgareddau yma ar gael yn y Rhaglen Swyddogol.