Cystadlu yn 2023

Mae'r dyddiad cau i gystadlu eleni wedi pasio

Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth yma'n fuan.

Eisiau gwirio darn gosod neu chwilio am wybodaeth yn y cyfamser?  Cliciwch yma am fwy.

Ein porth newydd

Rydyn ni wedi datblygu porth cystadlu newydd sbon ar gyfer 2023, ac mae'r broses ychydig yn wahanol i'r gorffennol. 

1 Dewis cystadleuaeth
Dewiswch eich cystadleuaeth a rhowch hi yn eich basged.  Ar ôl rhoi popeth yn y fasged, gwiriwch eich bod yn hapus, a gallwch gael gwared ag unrhyw gamgymeriad drwy glicio ar y botwm 'gwaredu'. Pan fyddwch chi'n hapus gyda'ch dewisiadau, cliciwch 'ymlaen i dalu'.

2 Creu cyfrif
Bydd rhaid creu cyfrif wrth ddefnyddio'r system am y tro cyntaf gan ei bod yn wefan newydd, ac unwaith y byddwch chi wedi gwneud, ni fydd angen gwneud hyn eto.  Ewch ati i dalu am eich cystadlaethau.

3 Cadarnhad
Ar ôl i ni brosesu’ch cais, byddwch yn derbyn ebost gyda rhagor o wybodaeth am eich cystadleuaeth.  Os y byddwch chi wedi cofrestru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth cyfansoddi, bydd yr ebost yn eich gwahodd i uwchlwytho eich gwaith.  Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn sicrhau bod eich enw 'go iawn' yn cael ei gadw ar wahan i'ch ffugenw er mwyn sicrhau cyfrinachedd.

Os ydych chi wedi cofrestru i gystadlu mewn cystadleuaeth llwyfan, bydd eich ebost yn cynnwys gwybodaeth am pryd a sut i uwchlwytho eich copïau er mwyn cwblhau'r broses, ac unrhyw wybodaeth arall byddwch chi - neu ni - ei angen cyn yr Eisteddfod.

4 Hafan cystadlaethau
Bydd yr ebost yn rhoi mynediad i chi i’ch hafan cystadlaethau chi, a bydd popeth fyddwch chi ei angen i'w weld yma. Anfonir y negeseuon hyn gan cofrestru@eisteddfod.cymru – ychwanegwch y cyfeiriad at eich llyfr cyfeiriadau er mwyn sicrhau eu bod nhw’n eich cyrraedd.

5 Cyngor a chymorth
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cystadlaethau, cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru ac os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y system, anfonwch ebost at 
Cymorth Cofrestru - cymorth@artistiaid-eisteddfod.cymru.

Eisiau cyngor ar sut i sicrhau hawlfraint ar gyfer darnau hunan-ddewisiad? Cliciwch yma.

Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu i gystadlu ym Moduan yn yr haf, ac ar gyfer y rheini ohonoch chi sy'n cymryd rhan mewn cystadleuaeth lwyfan, pob lwc gyda'r ymarfer. Ac i'r rheini ohonoch chi sy'n cystadlu mewn cystadlaethau cyfansoddi, mae'r gwaith caled wedi'i gwblhau, felly mae'n bryd ymlacio tan yr wythnos fawr!

Diolch am gefnogi.