Cyd-ddyheu

17 January 2020

Cerdd fer i nodi fod nifer o'r pwyllgorau lleol yn cael eu cyfarfodydd cyntaf dros yr wythnosau nesaf

Mae hi'n dwyn i gof englyn enwog R Williams Parry i Neuadd Mynytho, gan mai mewn neuaddau pentref y bydd llawer o'r cyfarfodydd yma'n digwydd.

Cyd-ddyheu

Os, yn fyd-eang, y teimlwn angau

a’i wrando astud yng ngraen ein distiau;

a’r diawl ar gerdded trwy’n cymunedau

yn hwylio’r te ac yn hawlio’r toeau,

rhoi nodwydd ar hen edau – trwsio’r gliw

wnawn ninnau heddiw’n ein hen neuaddau.