Rheolwr Hygyrchedd

6 June 2023

RHEOLWR HYGYRCHEDD

Yn atebol i: Rheolwr Technegol

Cefndir

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o brif wyliau a phrosiectau cymunedol Cymru. Cynhelir yr ŵyl yn flynyddol yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, gan deithio o ardal i ardal, gan ymweld â gogledd a de Cymru bob yn ail. Mae’n gyfle i gymunedau ym mhob rhan o Gymru groesawu ymwelwyr dros gyfnod o wyth niwrnod.

Amcanion craidd yr Eisteddfod Genedlaethol yw hyrwyddo diwylliant Cymru a diogelu ein hiaith, hanes a thraddodiadau mewn cymdeithas amrywiol fodern. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal i ddathlu popeth Cymreig ac i ddatblygu diwylliant Cymru drwy:

  • Annog pobl i ddefnyddio a dysgu’r Gymraeg;
  • Hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Cymru yn cynnwys y gwyddorau;
  • Arddangos perfformwyr Cymreig i gynulleidfa ehangach;
  • Darparu canolbwynt ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. 

Mae’r ŵyl yn hyrwyddo ein hiaith ac yn annog ei defnydd drwy arddangos talent o Gymru, gan gynnwys artistiaid, cerddorion, perfformwyr, busnesau, addysgwyr a darparwyr cymdeithasol. Mae’r gymuned leol, ynghyd â busnesau’r ardal yn cael eu hannog i fynd ati i gymryd rhan, gan roi gogwydd lleol i ŵyl genedlaethol sy’n cynnig blas Cymreig arbennig i adlewyrchu diwylliant, traddodiadau a gwerthoedd pobl Cymru.

Mae'r Eisteddfod hefyd yn ymroddedig i amcanion a nodau Siarter Attitude is Everything ac wedi derbyn yr achrediad arian.

Strwythur yr Eisteddfod

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi’i chofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol gyda’r Comisiwn Elusennau (rhif: 1155539).

Mae system rheoli barhaol yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnwys y Bwrdd Rheoli (Ymddiriedolwyr); y Cyngor a’r Llys. Mae’r Bwrdd Rheoli yn goruchwylio pob rhan o’r sefydliad drwy gynnal cyfarfod rheolaidd tua unwaith y mis i drafod meysydd a datblygiadau pwysig.

Mae’r Eisteddfod yn dibynnu ar gannoedd o wirfoddolwyr, yn lleol a chenedlaethol er mwyn sicrhau bod pob elfen o’n gwaith gan gynnwys ein prosiect cymunedol a’r ŵyl yn llwyddiant.

Y SWYDD

Rydym yn chwilio am Reolwr Hygyrchedd llawrydd profiadol i arwain ar weithredu polisi hygyrchedd yr Eisteddfod, a pharatoi a sicrhau bod Maes a gweithgareddau’r Eisteddfod yn hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl yn Llŷn ac Eifionydd eleni ac wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae hon yn swydd newydd dros dro yn y cyfnod hyd at ac yn ystod yr Eisteddfod eleni, a gynhelir ym Moduan, ger Pwllheli o 5-12 Awst.

Prif gyfrifoldebau

Cyffredinol

  • Sicrhau bod yr Eisteddfod yn gweithredu’n unol â’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf ym maes hygyrchedd yng Nghymru;
  • Sicrhau bod yr Eisteddfod yn dysgu ac yn gweithredu arfer dda ym maes hygyrchedd a chynhwysiant;
  • Adnabod anghenion a pharatoi sesiynau hyfforddi ar gyfer staff a gwirfoddolwyr yr Eisteddfod yn y cyfnod hyd at yr ŵyl;
  • Cydweithio gyda'r Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig er mwyn sicrhau bod yr Eisteddfod yn ymateb i ofynion siarter Attitude is Everything.

Cyn yr ŵyl

  • Paratoi gwybodaeth am hygyrchedd, gan gynnwys llawlyfr hygyrchedd i’w osod ar wefan yr Eisteddfod;
  • Sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer ymwelwyr anabl i gyd mewn lle;
  • Sicrhau bod asesiad risg a chynllun gweithredu hygyrchedd mewn lle ac wedi’u pasio ar y lefel uchaf mewn da bryd cyn yr ŵyl;

Yn ystod yr wythnos

  • Cydlynu’r berthynas gyda darparwyr sgwter ac adnoddau ar gyfer ymwelwyr anabl, gan sicrhau bod gwasanaeth ar gael tan ddiwedd y gweithgareddau ar y Maes gyda’r nos;
  • Sicrhau fod staff a gwirfoddolwyr dyddiol wedi’u briffio ar bolisi a gweithdrefnau hygyrchedd yr Eisteddfod;
  • Delio gydag ymholiadau, cwestiynau a cheisiadau ar hygyrchedd;

Yn dilyn yr ŵyl

  • Casglu a dadansoddi adborth gan ein cynulleidfa er mwyn gwella’r ddarpariaeth hygyrchedd yn y dyfodol;
  • Casglu data ar ddefnydd adnoddau er mwyn cynllunio’r ddarpariaeth yn y dyfodol;

 

MANYLEB PERSON

  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog ar lafar yn y Gymraeg a’r Saesneg;
  • Y gallu i feddwl yn greadigol, trefnus a hyblyg, gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â phroblemau a heriau;
  • Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm yn ogystal ag yn annibynnol ac o dan bwysau;
  • Profiad o ddatblygu perthnasau adeiladol ac effeithiol;
  • Gwybodaeth gyfredol o ddeddfwriaeth ac arfer dda ym maes hygyrchedd a chynhwysedd;
  • Profiad o gynllunio a gweithredu gwasanaethau hygyrchedd mewn gŵyl yng Nghymru neu’r DU;
  • Dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu ymwelwyr anabl wrth gynllunio ac ymweld â gŵyl, ynghyd â’r gallu i ddelio’n sensitif gyda phobl ar bob lefel.

 

TELERAU AC AMODAU

Math o gytundeb: Dros dro | Hunangyflogedig

Cyflog: £150 y dydd

Lleoliad: 3 diwrnod yn gweithio o gartref neu o Swyddfa’r Eisteddfod yng Nghaerdydd cyn yr ŵyl, 13 diwrnod ar-safle ym Moduan o 1-13 Awst a 2 diwrnod o gartref neu’r swyddfa yn dilyn yr ŵyl.

Dyddiad cau: 9 Mehefin 2023

Cyfweliadau: w/c 12 Mehefin (ar-lein)

Sut i ymgeisio: Anfonwch eich CV a llythyr sy’n amlinellu profiad perthnasol at swyddi@eisteddfod.cymru.  Mae croeso i chi gysylltu â betsan@eisteddfod.cymru i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.

 

Datganiad Cyfle Cyfartal

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn derbyn gofynion cyfreithiol Deddf Cydraddoldeb 2010, ynghyd â deddfwriaethau eraill perthnasol a’u goblygiadau.

Mae gweithdrefnau mewn lle i oresgyn gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol.

Mae polisïau Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn cael eu monitro a’u hadolygu’n rheolaidd i sicrhau bod unigolion yn cael eu trin yn deg.